Skip to main content

Hoffech chi ddod yn Gynghorydd?

LC wel

 Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn Gynghorydd? Oes diddordeb gyda chi mewn cynrychioli eich cymuned a'ch ardal leol fel aelod etholedig?

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal dwy sesiwn 'Dod yn Gynghorydd' wedi'u hanelu at ddarpar ymgeiswyr neu unrhyw un sydd eisoes yn chwarae rhan weithredol yn y gymuned ac sy'n chwilio am her newydd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb ymuno â'r sesiwn ar-lein ddydd Mercher 4 Tachwedd 2026 (5pm) neu'r sesiwn wyneb yn wyneb yn Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, ddydd Llun 9 Tachwedd (5pm).

I ddod yn ymgeisydd, rhaid i chi fod dros 18 oed, ar y gofrestr etholiadol, ac wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yn y Fwrdeistref Sirol am o leiaf y 12 mis diwethaf. 

Meddai Christian Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd, y Gymraeg a Chyfathrebu: “Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i annog ystod mor amrywiol â phosibl o bobl i sefyll yn etholiadau llywodraeth leol mis Mai.

“Mae’r 2 sesiwn anffurfiol yma'n ceisio rhoi’r cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb, neu sy’n ystyried sefyll fel Cynghorydd, i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a'r cymorth sydd ar gael gan y Cyngor i gefnogi ymgeiswyr newydd a Chynghorwyr newydd eu hethol.

“Nod yr achlysuron yw dangos sut, beth bynnag fo’ch cefndir neu amgylchiadau personol, mae hyblygrwydd y rôl a’r cymorth sydd ar gael i gefnogi aelodau newydd eu hethol, yn gwneud sefyll i fod yn Gynghorydd yn gyfle gwerth chweil i unrhyw un sy’n poeni’n angerddol am eu hardal leol.”

Does dim angen i chi fod yn rhan o blaid wleidyddol i sefyll mewn etholiad yn eich cymuned.

Bydd y sesiynau yma hefyd yn rhoi gwybodaeth am drefn y broses enwebu er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau.

Rhagor o wybodaeth am ddod yn Gynghorydd.

I gofrestru i fod yn rhan o sesiynau gwybodaeth 'Dod yn Gynghorydd' Rhondda Cynon Taf, e-bostiwch: BusnesyCyngor@rctcbc.gov.uk

 

Wedi ei bostio ar 29/10/2026