Mae 11 person ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal wedi cael haf prysur a llwyddiannus, wrth iddyn nhw gael blas ar y byd gwaith, diolch i garfan arobryn Cyngor Rhondda Cynon Taf a busnesau anhygoel Pontypridd!
Nid yn unig iddyn nhw 'weini' brwdfrydedd ac ymrwymiad anhygoel drwy gydol rhaglen cyflogadwyedd yr haf, GofaliWaith, fe wnaethon nhw hefyd ennill cymwysterau barista a hylendid a diogelwch bwyd er mwyn rhoi hwb i'w chwiliadau am swydd yn y dyfodol.
Mae wedi'i gydnabod ers amser y gall pobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal wynebu heriau ychwanegol pan ddaw hi at ddod o hyd i swydd a'i chynnal.
Wrth gydnabod hyn, fe lansiodd Carfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant y Cyngor y rhaglen GofaliWaith 15 mlynedd yn ôl. Mae hi wedi helpu cannoedd o bobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal i gael yr hyder, sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Fe gymerodd y bobl ifanc ran mewn gweithgareddau meithrin tîm er mwyn helpu i roi hwb i'w hyder a datblygu'r sgiliau personol a phroffesiynol sydd eu hangen arnyn nhw at ddibenion symud at addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Ar ôl cael dealltwriaeth o sectorau cyflogaeth a llwybrau gyrfa lleol y byddai modd iddyn nhw ymgymryd â nhw, fe wnaethon nhw fwynhau siaradwyr gwadd ysbrydoledig, gan gynnwys sylwebydd rygbi, gweithwyr diogelwch proffesiynol, a chynrychiolwyr o ystod o sectorau.
Diolch i arian gan y Bartneriaeth Alcohol yn y Gymuned, cafodd y bobl ifanc y cyfle i ennill cymwysterau wedi'u hachredu Lefel 2 ym maes Hylendid a Diogelwch Bwyd, a sgiliau Barista, i'w hychwanegu at eu CV!
Fe chwaraeodd busnesau lleol ran hanfodol unwaith yn rhagor yn llwyddiant y rhaglen, gan gynnig profiad gwaith i'r bobl ifanc.
Eleni, ymunodd nifer o gyflogwyr newydd megis Addysg a Gwella Iechyd Cymru, adran Hamdden a Thwristiaeth y Cyngor, a'r siopau coffi canlynol - YMa, Zucco's a Cortile Coffee, â chefnogwyr hirdymor, gan gynnwys Alfred's Bar & Grill, Blueberry's Café, La Crazy Croissant, a Heddlu De Cymru.
Mae'r gwahaniaeth y mae'r busnesau yma, y profiad gwaith, a'r cwrs yn ei gyfanrwydd, wedi'i wneud yn cael ei grynhoi yn yr adborth gan y bobl ifanc.
Dywedodd un cyfranogwr fod y profiad wedi bod yn “anhygoel” a dywedodd ei fod wedi “fy mharatoi ar gyfer bywyd,” tra bod un arall wedi’i alw’n “rhyfeddol” a dweud na fyddai'n “newid dim amdano”. Mae'r tystiolaethau pwerus yma'n dangos yn berffaith y gwahaniaeth y mae'r rhaglen wedi'i wneud i'r rhai a gymerodd ran.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Mae rhaglen GofaliWaith wedi cael ei chynnal ers 15 mlynedd ac mae wedi helpu i newid bywydau cannoedd o bobl ifanc.
"Mae eleni wedi bod yn llwyddiant unwaith yn rhagor diolch i frwdfrydedd ac ymroddiad anhygoel y bobl ifanc sydd wedi croesawu pob her a chyfle a gafodd eu cyflwyno iddyn nhw.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i'r busnesau lleol a'r Bartneriaeth Alcohol yn y Gymuned am eu cymorth a haelioni aruthrol wrth iddyn nhw roi o'u hamser i ddarparu profiad gwaith, rhannu arbenigedd a gwybodaeth a chyflwyno hyfforddiant proffesiynol. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ifanc.
“A da iawn i'n Carfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant, a gafodd ei chreu gan y Cyngor yr holl flynyddoedd hynny'n ôl er mwyn darparu cymorth pwrpasol i'r bywydau ifainc hynny roedd ei angen fwyaf arnyn nhw. Maen nhw'n parhau i fynd o nerth i nerth, fel sydd yn amlwg o'r gwobrau diweddar gan Princess Royal Training Awards a The National Special Educational Needs and Disability Awards.”
Fe ysgrifennodd Kylie o'n Carfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant flog ynghylch Cwrs Cyflogadwyedd yr Haf eleni. Mae modd i chi ei ddarllen yma.
Wedi ei bostio ar 18/09/2026