Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cynnig swm atodol i fudd-daliadau. Maen nhw'n cael eu hystyried os oes angen cymorth ychwanegol ar rywun o ran costau tai. Mae unrhyw daliad yn ychwanegol i'r Budd-dal Tai sydd wedi'i roi.
Dim ond hyn a hyn o arian sydd ar gael i'w wario ar y taliadau hyn, felly, mae eisiau cyflwyno cais er mwyn penderfynu a oes modd gwneud Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.
Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cynnig cymorth tymor byr; dydyn nhw ddim yn ateb tymor hir.
Beth all pwrpas Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn fod?
Gall Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn helpu gyda:
- Diffyg rhwng Budd-dal Tai / Costau Tai Credyd Cynhwysol a rhent
All Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ddim helpu gyda:
- cynnydd mewn rhent o achos ôl-ddyledion rhent
- unrhyw ddiffyg ariannol wrth dalu Treth y Cyngor
- budd-dal sydd wedi cael ei atal oherwydd methiant i roi gwybodaeth
- unrhyw ostyngiad budd-dal o ganlyniad i beidio â bod yn bresennol mewn 'cyfweliad canolbwyntio ar waith', cosb gwaith Lwfans Ceisio Gwaith, neu fethu â chydymffurfio â'r Asiantaeth Cynnal Plant wrth drefnu taliadau cynhaliaeth
- costau dŵr a charthffosiaeth.
Pwy sy'n cael gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn?
I fod yn gymwys i dderbyn Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, rhaid bod person yn derbyn Budd-dal Tai/elfen costau tai Credyd Cynhwysol ac yn gallu bodloni'r Cyngor bod angen cymorth pellach arno gyda chostau tai drwy gyflwyno manylion incwm a gwariant.
Does dim modd dyfarnu Taliad Disgresiwn at Gostau Tai lle mae Budd-dal Tai neu Gostau Tai Credyd Cynhwysol llawn yn daladwy yn barod.
Ydych chi am wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn?
Rhaid cwblhau cais ar-lein er mwyn gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn. Cliciwch ar y ddolen isod:
Mae cronfeydd ar gyfer y taliadau yn gyfyngedig, felly fydd pob cais ddim yn llwyddiannus. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno ar ran person arall, dylai hyn gael ei wneud yn glir ar y ffurflen.
Sut fydd yr arian yn cael ei dalu?
Os yw cais yn llwyddiannus, bydd yr arian yn cael ei roi gydag unrhyw Fudd-dal Tai. Bydd e fel arfer yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn derbyn y cais.
Beth fydd yn digwydd os bydd yr amgylchiadau'n newid?
Os bydd amgylchiadau'n newid, rhaid i'r Cyngor gael gwybod ar unwaith oherwydd gall hyn effeithio ar y taliadau. Os yw'r newid yn golygu eich bod chi wedi derbyn arian nad oedd hawl gyda chi'i dderbyn, efallai bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Dyma enghreifftiau o newidiadau mae rhaid rhoi gwybod amdanyn nhw:
- Budd-daliadau'n dechrau neu'n stopio
- Symud tŷ
- Newidiadau mewn incwm neu gynilon (i fyny neu i lawr)
- Rhywun yn symud i mewn neu allan o'r tŷ
Cewch chi roi gwybod am newidiadau i'ch amgylchiadau mewn perthynas â'ch hawl i Fudd-daliadau Tai ar-lein yma.
Ydych chi'n anghytuno â Phenderfyniad?
Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael eu rhoi tu allan i'r cynllun Budd-dal Tai ac felly does dim hawliau apêl statudol. Serch hynny, bydd y Cyngor yn adolygu penderfyniad os yw cais ysgrifenedig yn cael ei wneud.
Dylai unrhyw apêl gael ei wneud o fewn mis i ddyddiad y llythyr dyfarnu, gan roi'r rhesymau dros yr apêl. Fel arall, caiff person ffonio, ysgrifennu llythyr neu ymweld â'r Cyngor er mwyn derbyn eglurhad am y penderfyniad a/neu ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau, a fydd yn dangos gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r penderfyniad.