Os ydy'ch incwm yn isel, efallai bydd modd i chi gael Budd-dal Tai i'ch helpu chi i dalu'ch rhent. Gall Budd-dal Tai dalu ychydig o'ch rhent neu eich rhent i gyd – mae'n dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau.
Cewch chi wneud cais am Fudd-dal Tai os ydych chi'n gweithio neu'n ddi-waith, ond efallai fydd dim modd i chi hawlio Budd-dal Tai os ydy'r isod yn berthnasol i chi:
- Does dim rhaid i chi dalu rhent;
- Mae gennych chi neu'ch cymar, neu'r ddau ohonoch chi ar y cyd, gynilion o £16,000 neu fwy;
- Rydych chi'n byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref gofal preswyl i'r henoed;
- Rydych chi'n rhentu cartref roeddech chi'n arfer ei rannu oddi wrth eich cyn-gymar;
- Rydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eich landlord;
- Rydych chi'n byw yn eich cartref yn rhan o'ch swydd.
Sut i gyflwyno cais am Fudd-dal Tai
Cewch chi wneud cais ar-lein am Fudd-dal Tai
I gael ffurflen gais bapur, ffoniwch: 01443 425002
Cael help llenwi mewn cais
Os ydych chi'n berson hŷn neu'n anabl ac wedi derbyn ffurflen gais, ond bod angen cymorth arnoch chi i'w llenwi, mae'n bosibl y gallwn ni ymweld â chi. Cysylltwch â ni i ofyn am ymweliad.
- Trefnu apwyntiad yn eich Canolfan iBobUn leol
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn ni'n cysylltu â chi dros y ffôn neu'n ysgrifenedig os bydd angen rhagor o wybodaeth arnon ni. Os byddwch chi'n nodi'ch rhif ffôn presennol ar eich cais, bydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i ni gysylltu â chi.
Os hoffech chi wneud cais am fath arall o Fudd-dal, neu weld beth arall y gallwch chi ei hawlio, defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau.
Os bydd fy amgylchiadau'n newid, beth fydd yn digwydd?
Os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau (neu yn amgylchiadau'r bobl sy'n byw gyda chi), peidiwch ag aros i ni gysylltu â chi. Rhowch wybod i ni am y newid. Os byddwch chi'n oedi, mae'n bosibl fyddwch chi ddim yn derbyn cymaint o fudd-dal ag y gallai fod hawl gennych chi i'w gael, neu'ch bod chi'n derbyn gormod o fudd-dal. Rhowch wybod i ni am y newid.
Os dydych chi ddim yn siŵr am ba newidiadau y mae rhaid i ni gael gwybod, edrychwch ar gefn eich llythyr diweddaraf neu gysylltu â ni (mae'r manylion cyswllt i'w gweld isod).
Mae'n bosibl rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau, mewn perthynas â Budd-daliadau Tai / Gostyngiad Treth y Cyngor, ar-lein.
Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i bryd, i wirio nad oes newid yn eich amgylchiadau. Os byddwn ni'n gwneud hyn, byddwn ni naill ai'n ymweld â chi, yn anfon ffurflen drwy'r post i chi ei llenwi neu'n rhoi galwad ffôn i chi.
Oes modd ôl-ddyddio'r Budd-dal Tai?
Os ydych chi o'r farn y dylai eich Budd-dal Tai ddechrau ar ddyddiad cynharach, dylech chi ysgrifennu aton ni a gofyn i ni ôl-ddyddio'ch budd-dal. Fel arfer, fydd ceisiadau ddim yn cael eu hôl-ddyddio cyn y diwrnod y bydd eich cais yn cael ei gyflwyno, oni bai eich bod chi'n gallu dangos rheswm da dros beidio â gwneud cais ar yr adeg briodol. I gefnogi'ch cais ôl-ddyddio, cyflwynwch dystiolaeth, fel papur meddyg ac ati.
Y mwyaf y gallwn ni ôl-ddyddio'r Budd-dal Tai ydy un mis.
Os byddwn ni'n penderfynu dydych chi ddim wedi rhoi rheswm da a dydyn ni ddim yn gallu ôl-ddyddio'ch cais, bydd y rhesymau dros hyn yn cael eu hesbonio yn ein llythyr. Bydd hawl gennych chi i apelio yn erbyn ein penderfyniad.
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Ysgrifennwch at:
Tŷ Oldway
Stryd Y Porth
Y Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST