Skip to main content

Gor-daliadau Budd-dal Tai

Gor-daliad yw pan mae Budd-dal yn cael ei dalu, ond doedd dim hawl derbyn y budd-dal yn ôl y Rheoliadau.

Enghraifft o hyn byddai hawliwr yn peidio â dweud wrth y Cyngor bod ei incwm wedi cynyddu, felly byddai ail amcangyfrif o'i hawliau yn golygu ei fod yn derbyn gormod o fudd-dal.

Gall gordaliad twyllodrus ddigwydd os yw person yn rhoi datganiad neu ddogfen anghywir yn fwriadol, neu heb roi gwybod o'r newid mewn amgylchiadau yn fwriadol er mwyn hawlio a chadw'r budd-dal.

Hawl sylfaenol

Efallai bod modd lleihau maint y gordaliad drwy ddull o'r enw 'hawl sylfaenol.'

Egwyddor yr hawl sylfaenol ydy gwobrwyo maint tybiedig o fudd-dal sy'n lleihau'r maint gordalu, sydd wedi cael ei amcangyfrif yn flaenorol, gyda'r maint o fudd-dal byddech wedi derbyn pe bai'r ffeithiau'n gywir.

Pan rydych chi'n cael gwybod am ordaliad bydd gofyn i chi roi manylion eich amgylchiadau am gyfnod y gordaliad. Bydd un mis calendar gyda chi i roi'r wybodaeth hon.

Sut mae'r Cyngor yn delio â gordaliadau?

Mae'r rheolau am weinyddiaeth o ordaliadau budd-dal yn y Rheoliadau Budd-dal Tai a deddfwriaethau dilynol eraill. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i lynu at y ddarpariaeth gyfreithlon, ac i gael y gordaliadau yn ôl oddi wrth denantiaid a landlordiaid.

Gall y Cyngor hefyd benderfynu dwyn achos cyfreithiol am y gordaliadau twyllodrus.

Oddi wrth bwy mae modd adennill gordaliad?

Mae modd adennill gordaliad naill ai oddi wrth y unigolyn a achosodd y gordaliad, neu’r sawl sydd wedi derbyn y gordaliad.

Sut byddwn ni’n adennill gordaliad oddi wrth Denant?

Os yw’r tenant yn hawlio budd-dal tai ar y pryd, bydd y gordaliad yn cael ei dynnu’n ôl yn wythnosol o fudd-daliadau’r dyfodol. ‘Adgrafangu’ ydy’r term am hyn.

Mewn achosion lle mae’r taliadau’n mynd yn uniongyrchol at y landlord, bydd swm budd-dal gostyngol y tenant yn cael ei adlewyrchu yn swm y budd-dal sy’n cael ei dalu bob 4 wythnos.

Cyfrifoldeb y tenant yw talu ôl-ddyledion rhent sy’n digwydd o ganlyniad i daliadau gostyngol sy’n cael eu talu i’r landlord.

Os nad yw’r tenant yn hawlio Budd-dal Tai ar hyn o bryd, mae modd casglu’r gordaliad o fudd-daliadau eraill neu gyflwyno anfoneb.

Os bydd y Cyngor yn penderfynu dwyn achos troseddol ynghylch gordaliadau sydd wedi’u hawlio trwy dwyll, fydd y trefnau adennill gordaliad ddim yn effeithio ar unrhyw gamau cyfreithiol.

Sut mae Budd-dal yn cael ei adennill oddi wrth Landlord?

Os bydd y Cyngor yn penderfynu adennill gordaliadau gan landlord, bydd e’n cyflwyno anfoneb neu’n tynnu arian o fudd-daliadau tenantiaid eraill sy’n cael eu talu i’r landlord hwnnw.   Dydy’r landlord ddim i ystyried y didyniadau yma yn ôl-ddyledion rhent ar gyfer y tenantiaid hynny, a does dim hawl gyda’r landlord i geisio hawlio unrhyw ddiffyg oddi wrth ei denantiaid.

Os bydd y Cyngor yn penderfynu dwyn achos troseddol ynghylch gordaliadau sydd wedi’u hawlio trwy dwyll, fydd y trefnau adennill gordaliad ddim yn effeithio ar unrhyw gamau cyfreithiol.

Oes hawl gyda fi i Apelio?

Ewch i’r adran ar Adolygu ac Apelio ar Faterion Budd-daliadau Tai i gael rhagor o fanylion am drefn cyflwyno apêl.

Gall y sawl sy’n hawlio ofyn i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad ynghylch cyfrifo gordaliad.   Rhaid cyflwyno cais o’r fath cyn pen mis o dderbyn yr hysbysiad.  Mae hawl gyda landlord i ofyn i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad lle bydd gordaliad yn cael ei dynnu’n ôl oddi wrth landlord yn bersonol; hynny yw, mewn achosion lle bydd anfoneb am dâl wedi’i rhoi iddo, neu arian wedi’i dynnu o fudd-dal y mae’n ei dderbyn ar gyfer un o’i denantiaid er mwyn adennill gordaliad sy’n ddyledus gan y landlord mewn perthynas â thenant arall.

Os yw landlord yn bersonol yn gyfrifol am dalu gordaliad yn ôl, bydd e’n cael rhybudd ysgrifenedig am y penderfyniad i adennill gordaliad oddi wrtho.   Mae gofyn cyflwyno ceisiadau i’r Cyngor ailystyried ei benderfyniad cyn pen mis o dderbyn yr hysbysiad.

Caiff y landlord ysgrifennu at y Cyngor i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o resymau dros benderfynu tynnu gordaliad yn ôl oddi wrtho ar unrhyw adeg.

Beth fydd yn digwydd os bydd gordaliad heb gael ei dalu’n ôl?

Os bydd anfoneb sydd wedi’i chyfeirio at landlord yn aros heb ei thalu, neu fod trefn a gytunwyd arni i ad-dalu dyled dros gyfnod o amser yn cael ei thorri, bydd modd i’r Cyngor ddwyn achos gerbron y Llys Sirol.

Nodiadau pwysig

Gall landlord ofyn am adolygiad yn unig pan mae'r adferiad yn digwydd iddo ef yn bersonol. Hynny yw, pan mae anfoneb talu iddo ef, neu dynnu arian oddi wrth fudd-dal mae'n ei dderbyn wrth denant er mwyn derbyn y gordaliad yn ôl o'r landlord.

Pe bai'r landlord yn methu â thalu'r gordaliadau o hyd gall y Cyngor benderfynu nad yw'r landlord yn 'berson addas a chywir' o dan Reoliadau'r Budd-dal. Felly, gall y Cyngor wrthod talu taliadau budd-dal uniongyrchol i'r landlord yna.

Cyngor Rhondda Cynon Taff

Ysgrifennwch at:                                                                                                                             
Adran Budd-daliadau
Tŷ Oldway
Y Porth
Rhondda Cynon Taf
CF39 9ST

E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 681081