Rydyn ni'n cwblhau asesiad ochr yn ochr â chi a'ch plentyn/plant neu deulu. Rydyn ni'n edrych ar wahanol agweddau ar fywydau eich plentyn/plant (plentyn/plant sydd dan eich gofal).
Er enghraifft, rydyn ni'n edrych ar anghenion iechyd eich plentyn a'i anghenion addysg. Rydyn ni eisiau gwybod beth rydych chi a'ch plentyn/plant yn meddwl sy'n bwysig, a beth hoffech chi ei newid (os rhywbeth). Gyda'ch caniatâd chi, byddwn ni'n siarad â gweithwyr proffesiynol ym mywyd eich plentyn i gael cymaint o wybodaeth â phosibl.
Cymhwysedd
Bydd plentyn yn gymwys (addas) ar gyfer gwasanaeth os:
- Mae'r angen yn codi o amgylchiadau megis eu hoedran neu eu hiechyd
- Mae'n ymwneud â'u deilliannau lles presennol
- Does dim modd i'w rhieni, y teulu ehangach na'r gwasanaethau cymunedol ddiwallu eu hanghenion
- Dim ond trwy drefnu neu ddarparu'r gwasanaeth neu wneud taliadau uniongyrchol y mae modd i'w hawdurdod lleol ei fodloni.