Dylech chi, eich plentyn a'ch teulu fod yn rhan o waith datblygu’r cynllun a dylai'r hyn sydd o bwys i chi fod yn rhan fawr ohono.
Mae pobl eraill sy'n debygol o fod yn rhan o waith datblygu'r cynllun yn cynnwys athrawon, ymwelwyr iechyd, seicolegwyr a gwasanaethau cymorth eraill sy'n ymwneud â bywyd eich plentyn. Gall y cymorth sy'n rhan o'r cynllun gynnwys sefydlu arferion, gwaith un-wrth-un gyda'ch plentyn ynghylch materion megis gwrthod mynd i'r ysgol neu berthnasoedd iach, neu atgyfeiriadau am gymorth gan wasanaethau.