Mae Adolygiad Plentyn sy'n Derbyn Gofal (Cynllun Gofal a Chymorth) yn gyfle i edrych ar y cynllun (rhan 6 o Adolygiad Plentyn sy'n Derbyn Gofal).
Caiff cyfarfod adolygu Plentyn sy'n Derbyn Gofal ei gynnal er mwyn siarad am eich plentyn neu, os ydych chi'n rhiant maeth, y plentyn sydd dan eich gofal, a'i gynnydd. Mae'r adolygiad yn dod â'r bobl hynny sy'n ymwneud â bywyd eich plentyn neu'r plentyn rydych chi'n gofalu amdano ynghyd ac mae'n gyfle i:
• Adolygu Cynllun Gofal a Chymorth eich plentyn. Y ddogfen sy'n nodi sut y bydd eich plentyn yn derbyn gofal tra bydd yn derbyn gofal
• Trafod cynnydd eich plentyn yn y lleoliad
• Gwneud trefniadau ar gyfer y dyfodol
• I'ch galluogi chi i roi eich barn am y cynlluniau ar gyfer eich plentyn neu'r plentyn rydych chi'n gofalu amdano ac i gymryd rhan yn y penderfyniadau ar gyfer eu dyfodol.
Pa mor aml mae cyfarfodydd adolygu'n cael eu cynnal?
Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad y mae eich plentyn yn dechrau derbyn gofal. Os yw eich plentyn yn parhau i dderbyn gofal, rhaid cael ailadolygiad ddim mwy na thri mis ar ôl hynny. Yna, rhaid i chi gynnal adolygiadau o leiaf bob chwe mis neu'n amlach os bydd angen.
Pwy fydd yn y cyfarfodydd adolygu?
Bydd pobl allweddol ym mywyd eich plentyn yn dod i'r adolygiad naill ai mewn un cyfarfod neu mae modd ei gynnal fel cyfres o gyfarfodydd. Dyma bwy all fod yn bresennol yn yr adolygiad:
- Eich plentyn os yw'n ddigon hen ac yn deall beth sy'n digwydd
- Chi ac unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant (oni bai bod rheswm penodol pan nad oes modd i chi fod yn bresennol)
- Rhiant maeth neu weithiwr preswyl eich plentyn
- Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn
- Pobl eraill sy'n bwysig ym mywyd eich plentyn, e.e. mae modd i ymwelydd iechyd, athro/athrawes eich plentyn fod yn bresennol. Serch hynny, rydyn ni'n ceisio cyfyngu ar nifer y bobl sy'n bresennol yn y cyfarfod fel bod modd i bawb, yn enwedig eich plentyn, deimlo bod modd iddyn nhw wrando a chyfrannu.
Mewn achosion eithriadol, fydd rhieni a chefnogwyr y plentyn ddim yn cael bod yn bresennol yn y cyfarfod. Bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol a gweithiwr cymdeithasol eich plentyn yn gwneud y penderfyniad yma gyda'i gilydd ac yn egluro'r rhesymau pam.
Beth fydd yn digwydd yng nghyfarfod adolygu fy mhlentyn?
Yn y cyfarfod adolygu, rydyn ni trafod yr hyn y mae modd i bawb ei wneud er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn ddiogel, yn iach ac yn hapus, bod Cynllun Gofal a Chymorth eich plentyn yn gweithio a bod eich plentyn yn cael ei gefnogi ym mhob rhan o'i fywyd.
Bydd y cyfarfod yn edrych ar unrhyw newidiadau ym mywyd eich plentyn ac yn siarad am bob rhan o'r Cynllun Gofal a Chymorth, a bydd yn penderfynu a oes angen iddo newid a gwirio bod unrhyw gamau y cytunwyd arnyn nhw mewn cyfarfodydd blaenorol wedi'u cyflawni.
Byddwn ni'n sicrhau bod y cyfarfod mor gyfeillgar ac ymlaciol â phosibl i blant, fel bod eich plentyn yn teimlo'n ddigon cyfforddus a diogel i gyfrannu.
Ar ôl y cyfarfod adolygu derbyn gofal, byddwch chi'n derbyn adroddiad ysgrifenedig i gadarnhau beth gafodd ei benderfynu yn y cyfarfod a beth fydd yn digwydd nesaf ac erbyn pryd.
Bydd gweithiwr cymdeithasol eich plentyn yn diweddaru'r Cynllun Gofal a Chymorth i gynnwys argymhellion o'r cyfarfod. Ar ddiwedd y cyfarfod, bydd dyddiad ar gyfer yr adolygiad nesaf yn cael ei gytuno.
Beth fydd yn digwydd os nad oes modd i chi fod yn bresennol yn adolygiad eich plentyn?
Os nad oes modd i chi ddod i'r adolygiad, rhowch wybod i'r gweithiwr cymdeithasol sut yr hoffech chi i'ch teimladau a'ch dymuniadau gael eu rhannu yn y cyfarfod. Mae modd i chi hefyd gael sgwrs gyda'r Swyddog Adolygu Annibynnol. Efallai y bydd eithriadau lle bydd modd cynnal cyfarfodydd fel cyfres o gyfarfodydd i'ch galluogi chi i fod yn rhan o broses adolygu'r plentyn sy'n derbyn gofal. Mae eich cyfraniad chi'n werthfawr iawn. Os nad oes modd i chi fod yno, bydd gweithiwr cymdeithasol eich plentyn yn rhoi gwybod i chi beth gafodd ei drafod yn y cyfarfod.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y cyfarfodydd adolygu ar gyfer eich plentyn, cysylltwch â Gweithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Adolygu Annibynnol eich plentyn.