Fel arfer, yn dilyn y gynhadledd gychwynnol, cynhelir adolygiad ar ôl 3 mis.
Diben hyn yw penderfynu a yw eich plentyn/plant neu’r plentyn/plant yn eich gofal yn dal i wynebu perygl o niwed sylweddol. Bydd hyn hefyd yn gyfle i drafod a yw'r rheswm dros roi plentyn/plant ar y gofrestr, h.y. cam-drin corfforol, yn dal yr un fath, neu a oes angen newid hyn neu wneud unrhyw newidiadau i'r cynllun. Mae'n bosibl y bydd manylion asesiadau arbenigol neu wybodaeth newydd yn cael eu rhannu, a allai gael effaith ar y penderfyniad dan sylw. Os oes angen i'r plentyn/plant, neu'r plentyn/plant yn eich gofal, aros ar y gofrestr, byddwn ni'n cynnal adolygiadau pellach bob chwe mis.