Cytundeb gwirfoddol rhwng rhiant/person â chyfrifoldeb rhiant a'r Gwasanaethau i Blant yw Cytundeb Adran 76.
Os cytunir, mae'n caniatáu i blentyn (neu blant) gael ei leoli gydag aelod o'r teulu neu riant maeth tra bod Gwasanaethau i Blant yn cynnal ymchwiliadau neu asesiadau angenrheidiol. Mae modd defnyddio adran 76 hefyd i ddarparu llety am gyfnod hwy ar gyfer seibiant neu ddarparu addysg neu driniaeth feddygol.
Mae modd i leoliad o dan Gytundeb Adran 76 roi'r cyfle i deulu weithio gyda'r Gwasanaethau i Blant i gael cymorth i fynd i'r afael â'r pryderon a gaiff eu codi gan y Gwasanaethau i Blant gyda'r bwriad o osgoi achos llys.
Tra bod plentyn yn cael llety o dan Adran 76, byddwch chi'n dal i gadw cyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Serch hynny, rydych chi wedi rhoi caniatâd i'r Awdurdod Lleol arfer cyfrifoldeb rhiant am y tasgau dydd i ddydd. Dylai'r Awdurdod Lleol roi gwybod i chi am y cynnydd ac unrhyw wybodaeth ddiweddaraf am eich plentyn.
Does dim terfyn amser penodol nac uchafswm hyd ar gyfer llety ar gyfer y plentyn o dan Adran 76.
Mae'n bwysig, os gofynnir i chi arwyddo Cytundeb Adran 76, eich bod chi'n cael cyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau mai dyma'r opsiwn gorau i chi a'ch teulu.