Rydyn ni'n cydnabod yr effaith gall plentyn ag anabledd mewn teulu ei gael ar frodyr a chwiorydd. Gall brodyr a chwiorydd fod yn gynhalwyr, a gall hynny eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda phobl ifainc eraill. Efallai y byddan nhw'n cael eu hystyried yn Gynhalwyr Ifainc.
Mae cymorth ar gael yn Rhondda Cynon Taf. Siaradwch â'ch Gweithiwr Cymdeithasol/Rheolwr Materion Asesu Gofal am ragor o wybodaeth. Mae hefyd modd bwrw golwg ar wybodaeth i Gynhalwyr Ifainc.
Mae modd gwneud atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth am gymorth i frodyr a chwiorydd plentyn ag anabledd.