Mae Carfan Gofal Plant RCT yn falch o gyhoeddi bod gyda ni ein tudalen Facebook ein hunain bellach
Mae'n grŵp preifat ar gyfer darparwyr gofal plant yn RhCT. Ar y dudalen bydd ein holl newyddion a gwybodaeth am hyfforddiant, achlysuron ymgysylltu, y Cynnig Gofal Plant ac, wrth gwrs, canllawiau cyfredol ynghylch sefyllfa COVID-19.
Os hoffech chi ymuno â'r grŵp, cliciwch yma ac atebwch y cwestiynau canlynol:
- Eich lleoliad: yr enw a'r math o wasanaeth
- Rhif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) - Os dydych chi ddim wedi cofrestru gyda CIW, rhowch 'Dd/B' yn yr adran sylwadau
- Eich rôl bresennol yn y lleoliad
Dyma obeithio y bydd y dudalen yn ddefnyddiol i chi. Mae croeso i chi roi adborth ar yr hyn yr hoffech ei weld ar y dudalen a sut y gallwn ei gwella i chi.
https://www.facebook.com/groups/childcareteamRCT