Cymdeithas PACEY yw'r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar. Wedi'n ffurfio yn 1977, rydyn ni'n elusen sy'n ymroi i roi cymorth i bawb sy'n gweithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal a dysgu cynnar o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.
Rydyn ni'n darparu hyfforddiant, cymorth ymarferol a chyngor arbenigol i ymarferwyr sy'n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Rydyn ni hefyd yn darparu cymorth ac anogaeth gan gyfoedion trwy ein rhwydwaith ledled y wlad o Hyrwyddwyr PACEY.
Ein cenhadaeth yw rhoi cymorth i bawb sy'n gweithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal plant a dysgu cynnar o ansawdd uchel; a hyrwyddo'r swyddogaeth hanfodol sydd gan ymarferwyr wrth helpu i baratoi plant ar gyfer dyfodol disglair. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma
https://www.pacey.org.uk/