Skip to main content

Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024–2025

Rydyn ni'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid i RCT i weithredu Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach i gefnogi lleoliadau gofal plant sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau grant gan warchodwyr plant a lleoliadau gofal plant sy'n dymuno ymgymryd â gwaith cyfalaf hanfodol neu sydd eisiau prynu offer cyfalaf, er mwyn bod modd iddyn nhw:

  • gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • cynyddu nifer y lleoedd Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg a/neu Ddysgu Sylfaen maen nhw'n eu cynnig
  • gwella ansawdd y cyfleusterau maen nhw'n eu cynnig i blant sy'n derbyn y Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg a/neu Ddysgu Sylfaen.

Er mwyn cyflwyno cais am y grant, rhaid i chi ddangos:

  • Bod eich lleoliad yn Rhondda Cynon Taf
  • Bod eich lleoliad wedi ei gofrestru'n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y ddarpariaeth rydych chi'n ei chynnig (neu fod y cais yn cael ei brosesu a'ch bod chi'n gallu dangos cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol sydd wedi'u cytuno)
  • Rydych chi wedi ymrwymo i gynnig gofal plant drwy raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru am o leiaf bum mlynedd o ddyddiad talu’r Grant
  • Rydych wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) a DEWIS neu’n cytuno i gofrestru gyda’r ddau wasanaeth o fewn pedair wythnos i gwblhau eich cofrestriad gydag AGC.

Mae manylion llawn y Cynllun Grant Cyfalaf Bach i’w gweld yn y ‘Nodiadau Canllaw’ isod.

Gwneud eich cais:

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud eich cais yw hanner nos ar 18 Hydref 2024.
 

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn gyson yn erbyn y meini prawf cymhwysedd sydd eisoes wedi cael eu nodi ynghyd â'r blaenoriaethau cyllido er mwyn sicrhau bod y cyllid cyfyngedig sydd ar gael yn cael ei ddyrannu i'r ceisiadau hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ddarparu gofal plant yn RhCT.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw Dydd Gwener 18 Hydref 2024.

Fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

 

Welsg Gov Purple

 


Childcare Offer Wales
Flying start

Childcare Team logoRegistered Education Provider banner