Skip to main content

Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025-2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid i weithredu Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach i gefnogi lleoliadau gofal plant sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau grant gan warchodwyr plant a lleoliadau gofal plant sy'n dymuno ymgymryd â gwaith cyfalaf hanfodol neu sydd eisiau prynu offer cyfalaf, fel bod modd iddyn nhw:

  • Gwella'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • Cynyddu nifer y lleoedd y mae modd iddyn nhw eu cynnig yn rhan o ddarpariaeth Cynnig Gofal Plant (Cymru), Dechrau’n Deg a/neu Ddysgu Sylfaen;
  • Gwella ansawdd y cyfleusterau maen nhw'n eu cynnig i blant sy'n derbyn y Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg a/neu Ddysgu Sylfaen.

Er mwyn cyflwyno cais am y grant, rhaid i chi ddangos:

  • Bod eich lleoliad yn Rhondda Cynon Taf
  • Bod eich lleoliad wedi ei gofrestru'n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y ddarpariaeth rydych chi'n ei chynnig (neu fod y cais yn cael ei brosesu a'ch bod chi'n gallu dangos cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol sydd wedi'u cytuno)
  • Rydych chi wedi ymrwymo i gynnig gofal plant drwy raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru am o leiaf bum mlynedd o ddyddiad talu’r Grant
  • Mae eich sefydliad wedi'i gofrestru gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a DEWIS?

Mae manylion llawn y Cynllun Grant Cyfalaf Bach i’w gweld yn y ‘Nodiadau Canllaw’.

Gwneud eich cais:

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw canol nos ddydd Gwener 10 Hydref 2025.
 

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn gyson yn erbyn y meini prawf cymhwysedd sydd eisoes wedi cael eu nodi ynghyd â'r blaenoriaethau cyllido er mwyn sicrhau bod y cyllid cyfyngedig sydd ar gael yn cael ei ddyrannu i'r ceisiadau hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ddarparu gofal plant yn RhCT.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 10 Hydref 2025.

Fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

 

Welsg Gov Purple

 


Childcare Offer Wales
Flying start

Childcare Team logoRegistered Education Provider banner