Mae gwarchodwyr plant yn darparu gofal yn eu cartrefi eu hunain, ond, maen nhw hefyd yn treulio amser mewn lleoliadau eraill - fel cylchoedd i blant bach, llyfrgelloedd, parciau a chanolfannau gweithgareddau preifat - er mwyn darparu amgylchedd sy'n llawn amrywiaeth ac anogaeth.
Maen nhw'n ymarferwyr hyfforddedig a chofrestredig sy'n gyfrifol am ofalu am eich plentyn, a'i gadw'n ddiogel. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad emosiynol a chorfforol eich plentyn, trwy ddarparu cymysgedd o brofiadau chwarae a dysgu yn y cartref a'r tu allan i'r cartref.
Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn cofrestru ac yn arolygu pob gwarchodwr plant. Mae gan bob gwarchodwr plant dystysgrif cofrestru gan yr Arolygaeth a thystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
Mae rhaid bod y dogfennau pwysig hyn gan bob gwarchodwr plant. Wrth i chi ddewis darpariaeth gofal plant, peidiwch â bod ofn gofyn am gael gweld copïau o'r tystysgrifau hyn.
Mae gwarchodwyr plant yn hunan-gyflogedig, felly, maen nhw'n pennu eu ffioedd eu hunain ac mae modd iddyn nhw fod yn hyblyg o ran oriau gwaith. Mae modd iddyn nhw warchod hyd at chwech o blant, o wahanol oedrannau, ar y tro. Maen nhw'n opsiwn da, felly, os oes gennych chi fwy nag un plentyn sydd angen gofal.
Mae gwefannau'r Arolygaeth a PACEY yn cynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol i'ch helpu chi i ddewis y math iawn o ofal plant, gan gynnwys rhestr wirio ddefnyddiol.
Chwiliwch am warchodwyr plant yn eich ardal
Gweld gwarchodwyr plant lleol drwy ein gwefan DEWIS