Skip to main content
Alert Symbol
Mae rhybudd tywydd MELYN y Swyddfa Dywydd o law mewn grym tan 7pm ddydd Iau 18 Rhagfyr. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae (PSA)

Mae Cymru wedi arloesi ym maes deddfwriaeth chwarae ers i, fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, osod dyletswydd statudol ar bob Awdurdod Lleol i asesu lefel y cyfleoedd chwarae yn eu hardal bob 3 blynedd o 2012 ymlaen, gyda'r ddyletswydd i sicrhau'r cyfleoedd hyn yn dechrau yn 2014.

Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth gyntaf yn y byd i amddiffyn hawl plant i chwarae yn y gyfraith. Mae hawl plant i chwarae wedi'i ymgorffori yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), y cytundeb hawliau dynol a gydnabyddir fwyaf cyffredinol, a fabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2004.

Mae CBSC RhCT yn cydnabod gwerth cynhenid chwarae ym mywydau plant; Ein gweledigaeth yw y dylai pob plentyn a pherson ifanc allu: gael hwyl; mwynhau eu plentyndod a'u ieuenctid; dilyn dysgu; a datblygu sgiliau bywyd trwy gymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol o ansawdd uchel, gan sicrhau ein bod yn diwallu diddordebau ac anghenion pob plentyn neu berson ifanc unigol

Lluniwyd y PSA dros gyfnod o 9 mis a oedd yn cynnwys asesiad cynhwysfawr o feini prawf digonolrwydd chwarae, gweithio mewn partneriaeth â nifer o wasanaethau CBST RhCT ac ymgynghori â thrigolion RhCT. Roedd hyn yn cynnwys:

  1. 681 o blant a phobl ifanc a gwblhaodd yr 'Arolwg Chwarae Mawr'
  2. 5 grŵp ffocws gyda Chynghorau Ysgolion Cynradd
  3. 3 grŵp ffocws mewn clybiau ieuenctid
  4. 1 grŵp ffocws gyda gofalwyr ifanc 
  5. 40 Rhieni / Gofalwyr drwy arolwg
  6. 4 Grŵp ffocws gyda Rhieni/Gofalwyr plant ag anghenion ychwanegol
  7. Darparwyr Chwarae mynediad agored y Trydydd Sector
  8. 53 Uwch Arweinwyr Ysgol drwy arolwg

Mae canfyddiadau'r PSA wedi llywio'r cynllun gweithredu ar gyfer 2025-28 sy'n sicrhau bod y gwaith a wnaed yn mynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd mewn cyfleoedd chwarae ar draws RhCT. Y blaenoriaethau allweddol sy'n symud ymlaen yw:

  1. Cynyddu nifer y cyfleoedd chwarae Cymraeg ar draws Ieuenctid, Chwarae, Hamdden a'r Celfyddydau a Diwylliant
  2. Cynyddu nifer ac ansawdd y cyfleoedd chwarae a hamdden i blant a phobl ifanc anabl
  3. Gwella cynhwysiant a hygyrchedd ardaloedd chwarae sefydlog
  4. Defnyddio offer data fel Power BI i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei arwain gan anghenion a bod penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth
  5. Ymgorffori Cynllun Sicrhau Ansawdd i wella ansawdd a chysondeb darpariaeth chwarae mynediad agored
  6. Hyrwyddo a dathlu manteision a phwysigrwydd chwarae i gymunedau, plant, pobl ifanc a'r holl randdeiliaid
  7. Ymgysylltu ag Addysg i eirioli dros agor tiroedd ysgol ar gyfer cyfleoedd i chwarae y tu hwnt i'r diwrnod ysgol
  8. Cyfoethogi cynlluniau teithio llesol trwy weithredu gwaith celf a chyfleoedd i chwarae
  9. Lliniaru pryderon ynghylch traffig fel rhwystr mawr i chwarae y tu allan trwy gynnig mwy o sesiynau diogelwch ar y ffyrdd i blant a phobl ifanc