What is the Youth Engagement and Participation Service?
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid (Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid – YEPS) yw'r Gwasanaeth Ieuenctid statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae YEPS yn cynnig mynediad i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws nifer o ysgolion a lleoliadau ieuenctid i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed.  Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid.Mae YEPS hefyd yn rhedeg Clybiau Ieuenctid ar draws RhCT rhwng 5.45yh a 8yh y rhan fwyaf o nosweithiau’r wythnos y gall pobl ifanc rhwng 11-25 oed eu mynychu.
I gweld rhestr llawn Clybiau Ieuenctid - YEPS
Mae YEPS yn cynnig darpariaeth a chefnogaeth trwy:
- Gwaith ieuenctid yn yr ysgol
 
- Cefnogaeth benodol i blant 16 oed ac hŷn
 
- Ymyriadau Iechyd Meddwl a Lles
 
- Cyngor ac Arweiniad ar ddigartrefedd
 
- Gwaith pontio Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant
 
- Sesiynau yn seiliedig ar hawliau
 
- Gweithgareddau yn y gymuned gan gynnwys clybiau ieuenctid, fan ieuenctid symudol, sesiynau ar y stryd, teithiau gwyliau ysgol a sesiynau galw heibio yn y gymuned
 
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am YEPS, gallwch: