Gweld help a chyngor i'r rhai sy'n dioddef Cam-drin Domestig a Thrais Domestig.
Byw Heb Ofn – Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac mae'n cynnig cyngor neu gymorth am ddim i'r rhai sy'n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu'n pryderu am rywun sy'n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae modd cael cymorth dros y ffôn, sgwrs ar-lein, neu drwy neges destun neu e-bost. Ffoniwch 0808 80 10 800 neu Cysylltwch â Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU
Gwasanaethau Cam-drin Domestig RhCT – Os hoffech chi gael gwybodaeth neu gefnogaeth gan Wasanaethau Cam-drin Domestig RhCT, ffoniwch 01443 400791 neu ewch i Cael Help - Gwasanaethau Cam-drin Domestig RhCT (wa-rct.org.uk). Maen nhw'n cynnig Llety Lloches, cymorth i fenywod a phlant mewn lloches, cymorth grŵp a chymorth unigol i blant, a rhagor.
Famous people rct - Mae'r wefan yma'n darparu gwybodaeth am gam-drin domestig, gan gynnwys ble mae modd dod o hyd i gymorth, gwasanaethau lleol, cymorth i blant a phobl ifainc, a llawer yn rhagor. http://www.famouspeoplerct.co.uk/welsh.html
Bawso - Mae Bawso yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i Bobl Ddu ac Ethnig Leiafrifol (BME) a mudwyr sy’n dioddef Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl. https://bawso.org.uk/cy/
New Pathways - Mae New Pathways yn cynnig cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifainc sydd wedi'u heffeithio gan drais, cam-drin rhywiol neu gam-drin. Plant a Phobl Ifanc - New Pathways
Cwm Taf Morgannwg Bwrdd Diogelu - Ewch i wefan Bwrdd Diogelu CTM i gael rhagor o wybodaeth am gam-drin domestig a dolenni i wasanaethau cymorth yn yr ardal leol. Cam-drin yn y Cartref | Bwrdd Diogelu, Cwm Taf Morgannwg (cwmtafmorgannwgsafeguardingboard.co.uk)
Rhaglen Driving Change – Mae Driving Change yn rhaglen cam-drin domestig ar gyfer dynion sy'n cydnabod eu bod nhw wedi bod yn dreisgar a/neu'n sarhaus yn eu perthnasoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ac i gael mynediad at y Rhaglen Driving Change, ewch i Driving Change – Safer Merthyr Tydfil (smt.org.uk) neu ffoniwch 07506719687.
Mae Rhaglen i Deuluoedd - Yn cynnig cymorth arbenigol i deuluoedd sy'n profi cam-drin domestig sy'n dymuno aros gyda'i gilydd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i The Family Programme – Safer Merthyr Tydfil (smt.org.uk) neu ffoniwch 01685 353999.