Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer y rhai sydd eisiau cymorth mewn perthynas â chyffuriau ac alcohol. Dyma rai gwasanaethau sy'n cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth.
Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl ar gyfer Alcohol a Chyffuriau 'DASPA' (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm).
DASPA yw’r pwynt cyswllt ar gyfer pobl sy’n chwilio am gymorth neu gyngor yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol ledled Cwm Taf Morgannwg. Mae’n wasanaeth a gefnogir gan y sectorau gwirfoddol, cymdeithasol ac iechyd.
I gysylltu â DASPA:
- Ffoniwch: 0300 333 0000 (am ddim o ffôn llinell tir, cost galwad lleol o ffôn symudol).
- Ewch i wefan DASPA: https://daspa.org.uk/ er mwyn i weithwyr proffesiynol wneud atgyfeiriadau ar-lein
- Mae gwasanaeth sgyrsio ar-lein 'Barod' ble mae modd gwneud atgyfeiriadau 'DASPA' https://barod.cymru/cy/
- Mae rhif ffôn gyda 'Barod' yn benodol fel bod modd i blant a phobl ifainc anfon neges destun neu WhatsApp, sef 07436315344. Bydd gweithiwr yn ymateb yn ystod oriau gwaith 9am–5pm ddydd Llun i ddydd Gwener.
DAN 24/7
Dan 24/7 yw Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru. Mae modd cysylltu â nhw ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos i gael cymorth a chyngor.
Mae eu gwasanaeth yn gyfrinachol – does dim rhaid i chi roi eich enw iawn os dydych chi ddim eisiau gwneud hynny.
Ffoniwch: 0808 808 2234 neu ysgrifennwch DAN mewn neges testun a'i anfon at: 81066
Neu ewch i'w gwefan:
https://dan247.org.uk/
Barod
Mae Barod yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ac anfeirniadol am ddim. Mae Barod yn arbenigo mewn rhoi cymorth cyfrinachol o ran camddefnyddio sylweddau i oedolion a phobl ifainc.
Maen nhw'n cynnig sgwrs fyw ar eu gwefan ac mae ganddyn nhw ddolenni i wasanaethau lleol.
https://barod.cymru/cy/ble-i-gael-help/gwasanaethau-de-ddwyrain/cwm-taf-adult-services/
Talk to Frank –Honest information about drugs | FRANK (talktofrank.com)
NHS Alcohol Support - Alcohol support - NHS (www.nhs.uk)