Mae Dechrau'n Deg yn rhan o'n rhaglen y blynyddoedd cynnar ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Mae Dechrau'n Deg yn un o'n blaenoriaethau yn rhan o agenda Trechu Tlodi.
Rydyn ni'n ymrwymo i ddyblu nifer y plant au teuluoedd sy'n elwa o raglen Dechrau'n Deg o 18,000 i 36,000 erbyn diwedd Tymor y Cynulliad yn 2016.
Yn 2014-15 roedd 37,260 wedi elwa o dderbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg yng Nghymru ar unrhyw adeg. Roedd y niferoedd hyn yn uwch na'r disgwyl.
Beth yw Dechrau'n Deg
Mae yna 4 rhan allweddol i raglen Dechrau'n Deg.
Gofal plant rhan amser o ansawdd uchel ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed;
Mae Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant o ansawdd uchel. Mae'r gofal plant yma'n cael ei gynnig i rieni pob plentyn 2-3 oed sy'n gymwys i dderbyn y gofal am 2 awr a hanner, 5 diwrnod yr wythnos dros 39 wythnos. Yn ogystal â’r 39 wythnos o ofal plant ffurfiol, bydd Dechrau'n Deg yn darparu diwrnodau llawn hwyl ychwanegol i’r teulu yn ystod gwyliau ysgol drwy gydol y flwyddyn, a hynny mewn lleoliadau amrywiol."
Dylai hyn gael ei gysylltu â mynediad i'r cyfnod sylfaen er mwyn sicrhau cyfnod pontio di-dor rhwng y 2 gynnig gan sicrhau nad oes bwlch yn y ddarpariaeth.
Gwasanaeth ymwelwyr iechyd estynedig
Rhan allweddol o'r rhaglen yw sicrhau bod yna un ymwelydd iechyd llawn amser ar gyfer pob 110 plentyn dan 4 oed yn yr ardaloedd targed. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cymorth dwys i blant a theuluoedd Dechrau'n Deg.
Prif swyddogaeth ymwelydd iechyd Dechrau'n Deg yw cefnogi'r teulu yn y cartref, gan asesu'r plentyn a'r teulu (o ran risg uchel, canolig ac isel). Dylai ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg asesu'r teuluoedd hynny sydd wedi'u nodi fel risg uchel a chanolig yn barhaus, a chyflawni'r atgyfeiriadau perthnasol.
Mynediad at raglenni rhianta
Rhaid i bob teulu sydd â phlentyn sy'n rhan o raglen Dechrau'n Deg dderbyn cynnig am gymorth rhianta ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn pob blwyddyn. Mae modd i hyn fod mewn grwpiau neu un-i-un yn y cartref gan gynnwys cymysgedd amrywiaeth o gymorth ffurfiol ac anffurfiol gan ddibynu ar anghenion y teulu.
Dylai'r cynnig rhianta gael ei seilio ar y 3 thema ganlynol:
- cymorth amenedigol a chymorth yn ystod y blynyddoedd cynnar
- dulliau ymyrraeth gynnar er mwyn cefnogi rhieni sy'n agored i niwed
- rhaglenni sy'n cefnogi rhianta cadarnhaol
Anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu
Dylai pob teulu sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg gael mynediad parhaus at grwp Iaith a Chwarae addas. O ganlyniad i hyn, mae modd gweithredu dull sydd wedi'i dargedu ar sail asesu ac atgyfeirio mewn achosion lle mae tystiolaeth o anghenion ychwanegol. Caiff Therapyddion Lleferydd ac Iaith eu cyflogi yn rhan o garfan graidd Dechrau'n Deg mewn rhai Awdurdodau Lleol.
Mae tystiolaeth yn dangos bod gallu lleferydd, iaith a chyfathrebu yn rhagfynegydd pwysig ar gyfer cynnydd o ran llythrennedd. Mae hefyd yn cael effaith ar sgiliau cymdeithasol yn ogystal ag ymddygiad plant.
Mae gan dudalennau Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru lwyth o wybodaeth ddefnyddiol.