Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Grant Hanfodion Ysgol 26/27 ar gael i ddisgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim o'r dosbarth derbyn (4 oed) hyd at flwyddyn 11. Gwerth cyllid y grant yw £125 ar gyfer pob grŵp blwyddyn heblaw blwyddyn 7. Gwerth y grant ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 yw £200.
Diben y cynllun
Diben y cynllun yma yw rhoi cymorth grant i deuluoedd sy'n ennill incwm is er mwyn prynu:
- Gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
- Gwisg chwaraeon ysgol, gan gynnwys esgidiau;
- Offer TG: gliniaduron a llechi YN UNIG (dim ond mewn achosion lle nad oes modd i ysgol roi benthyg offer i'r teulu y dylai Grant Hanfodion Ysgol gael ei ddefnyddio);
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, Sgowtiaid; Geidiaid; Cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformiadol neu ddawns;
- Offer, megis bagiau ysgol ac offer ysgrifennu;
- Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau e.e. gwersi dylunio a thechnoleg;
- Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. gwisg wrth-ddŵr; ac
- Eitemau hanfodol eraill heb fod yn wisg ysgol fel dillad ar gyfer addysg awyr agored breswyl.
Pwy sy'n gymwys?
Mae'r cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n:
- Dechrau yn y Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 1 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 2 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 3 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 4 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 5 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 6 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2026 (gwerth £200);
- Dechrau ym Mlwyddyn 8 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 9 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 10 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Dechrau ym Mlwyddyn 11 ym mis Medi 2026 (gwerth £125);
- Disgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, neu'r rheiny sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol ('EOTAS') wedi'i threfnu gan yr awdurdod lleol ac sy'n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2026.
- Pob plentyn o oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn gofal, waeth ble maen nhw wedi'u lleoli. Yr Awdurdod Lleol ble mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol sy'n rhoi'r grant.
- Gallai cyllid fod ar gael hefyd i ddisgyblion sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus ym mlwyddyn y dosbarth Derbyn hyd at flwyddyn 11.
Nodwch – Dyw disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn sgil trefniadau 'amddiffyn wrth bontio' na disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim trwy gynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru ddim yn gymwys ar gyfer y cyllid yma.
Bydd y cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2026 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2027. Dim ond un cais fesul disgybl y mae modd ei wneud bob blwyddyn academaidd.
Rhieni a gwarcheidwaid
Os ydych chi'n Rhiant neu'n Warcheidwad, bydd gofyn i chi gael cod-allwedd personol 10 digid o hyd (bydd yn dechrau gyda ‘SEG26’), er mwyn i'ch cais gael ei brosesu. Bydd ysgolion yn rhoi gwybod i deuluoedd ynghylch unrhyw gyllid sy'n ddyledus iddyn nhw cyn diwedd Tymor yr Haf ym mis Gorffennaf 2026. Ar gyfer ceisiadau blwyddyn 7 ac uwch, bydd yr Ysgol Uwchradd/Ysgol Pob Oed yn rhoi gwybod i chi ynghylch unrhyw gyllid sy'n ddyledus i chi. Os na chewch chi wybod am hyn, a'ch bod chi o'r farn y gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y grant, cysylltwch â'r ysgol yn y lle cyntaf.
Sut mae gwneud cais?
Mae modd gwneud cais am y cynllun drwy lenwi ein ffurflen ar-lein isod