Skip to main content

Grant Hanfodion Ysgol 24/25 (Mynediad ym mis Medi 2024)

Y bwriad o ran y cynllun yma yw rhoi cymorth grant i deuluoedd sydd ar incwm isel ar gyfer prynu: 
  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Gwisg chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Offer TG: gliniaduron a llechi YN UNIG (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig y dylai Grant Hanfodion Ysgol gael ei ddefnyddio, mewn achosion lle nad oes modd i ysgol roi benthyg offer i'r teulu);
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, Scouts; Guides; Cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; y celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer, e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
  • Offer arbenigol pan fo gweithgareddau cwricwlwm newydd yn cychwyn megis dylunio a thechnoleg; ac
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. gwisg wrth-ddŵr.

Mae'r Cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n:

  • Dechrau yn y dosbarth Derbyn ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 1 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 2 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 3 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 4 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 5 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 6 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £200;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 8 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 9 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 10 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 11 ym mis Medi 2024, ar gyfradd o £125;
  • Ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion ac sy’n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2024.
  • Ar gyfer plant sy'n derbyn gofal sydd o oed ble mae'n orfodol eu bod nhw'n mynd i'r ysgol ac sy'n cael eu hystyried yn blant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Yr Awdurdod Lleol y mae'r plentyn sy'n derbyn gofal yn mynychu'r ysgol ynddo sy'n gyfrifol am y grant.
  • Gallai cyllid fod ar gael hefyd i ddysgwyr sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus ym mlwyddyn y dosbarth Derbyn hyd at flwyddyn 11.

Nid  yw dysgwyr sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn sgil trefniadau pontio ar gyfer diogelu a dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim drwy gynllun Prydau Ysgol Gynradd am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, Llywodraeth Cymru yn gymwys ar gyfer y cyllid yma.

Bydd y cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2025.

Ar gyfer pob dysgwr unigol, dim ond un cais am y cyllid y mae modd ei wneud pob blwyddyn.

 

Os ydych chi'n Rhiant neu'n Warcheidwad, bydd gofyn i chi gael cod-allwedd personol 10 digid o hyd (bydd yn dechrau gyda ‘SEG24’), er mwyn i'ch cais gael ei brosesu. Bydd ysgolion yn rhoi gwybod i deuluoedd ynghylch unrhyw gyllid sy'n ddyledus iddyn nhw cyn diwedd Tymor yr Haf ym mis Gorffennaf 2024. Ar gyfer ceisiadau blwyddyn 7 ac uwch, bydd yr Ysgol Uwchradd / Ysgol Pob Oed yn rhoi gwybod i chi ynghylch unrhyw gyllid sy'n ddyledus i chi. Os na chewch chi wybod am hyn, a'ch bod chi o'r farn y gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y grant,  cysylltwch â'r ysgol yn y lle cyntaf.

Gwneud cais

Bydd gofyn i chi wneud eich cais ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol, ar-lein

Pe bydd unrhyw broblemau gyda'r broses gwneud cais, anfonwch e-bost at: YGrantHanfodionYsgol@rctcbc.gov.uk