Skip to main content

Grant Hanfodion Ysgol 25/26 (ar gyfer grwpiau blwyddyn mis Medi 2025)

Y bwriad o ran y cynllun yma yw rhoi cymorth grant i deuluoedd sy'n ennill incwm bach ar gyfer prynu: 
  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Gwisg chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Offer TG: gliniaduron a llechi YN UNIG (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig y dylai Grant Hanfodion Ysgol gael ei ddefnyddio, mewn achosion lle nad oes modd i ysgol roi benthyg offer i'r teulu);
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, Sgowtiaid; Geidiaid; Cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformiadol neu ddawns;
  • Offer, e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
  • Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau e.e. gwersi dylunio a thechnoleg;
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. gwisg wrth-ddŵr; ac
  • Eitemau hanfodol eraill heb fod yn wisg ysgol fel dillad ar gyfer addysg awyr agored breswyl.

Mae'r cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n:

  • Dechrau yn y dosbarth Derbyn ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 1 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 2 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 3 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 4 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 5 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 6 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £200;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 8 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 9 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 10 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Dechrau ym Mlwyddyn 11 ym mis Medi 2025, ar gyfradd o £125;
  • Ar gyfer disgyblion mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, neu y rheiny sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) gan drefniant yr awdurdod lleol ac sy’n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed ym mis Medi 2025.
  • Ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal o oedran ysgol orfodol, waeth ble maen nhw wedi'u lleoli. Yr Awdurdod Lleol y mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol ynddo sy'n rhoi'r grant.
  • Gallai cyllid fod ar gael hefyd i ddisgyblion sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus ym mlwyddyn y dosbarth Derbyn hyd at flwyddyn 11.

Dyw disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn sgil trefniadau pontio ar gyfer diogelu a disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim drwy gynllun Prydau Ysgol Gynradd am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, Llywodraeth Cymru ddim yn gymwys ar gyfer y cyllid yma.

Bydd y cynllun ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2025 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2026.

Ar gyfer pob disgybl unigol, dim ond un cais am y cyllid y mae modd ei wneud bob blwyddyn academaidd.

Os ydych chi'n Rhiant neu'n Warcheidwad, bydd gofyn i chi gael cod-allwedd personol 10 digid o hyd (bydd yn dechrau gyda ‘SEG25’), er mwyn i'ch cais gael ei brosesu. Bydd ysgolion yn rhoi gwybod i deuluoedd ynghylch unrhyw gyllid sy'n ddyledus iddyn nhw cyn diwedd Tymor yr Haf ym mis Gorffennaf 2025. Ar gyfer ceisiadau blwyddyn 7 ac uwch, bydd yr Ysgol Uwchradd/Ysgol Pob Oed yn rhoi gwybod i chi ynghylch unrhyw gyllid sy'n ddyledus i chi. Os na chewch chi wybod am hyn, a'ch bod chi o'r farn y gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y grant, cysylltwch â'r ysgol yn y lle cyntaf.

Gwnewch gais am y grant Ar-lein

Cyflwynwch gais am Grant Hanfodion Ysgol ar-lein

Os bydd unrhyw broblemau gyda'r broses gwneud cais, anfonwch e-bost i: YGrantHanfodionYsgol@rctcbc.gov.uk