Skip to main content

Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

Y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yw ein gwasanaeth cymorth dwys tymor byr i deuluoedd yn Rhondda Cynon Taf. Bwriad y gwasanaeth yw cynnig cymorth ac arweiniad cyflym ac effeithiol i helpu teuluoedd i oresgyn y problemau y maen nhw'n eu hwynebu. Mae ein gwasanaeth yn cynnig hyd at 6 wythnos o gymorth (12 wythnos mewn amgylchiadau penodol), wedi'i deilwra i'ch anghenion chi a'ch teulu.

Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn ymwneud â meithrin cydnerthedd o fewn teuluoedd. Mae hyn yn golygu eich helpu chi i ddysgu sgiliau fel bod modd i chi 'godi ar eich traed unwaith eto' pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Mae'n ymwneud â bod yn gryf, yn hyblyg, a dysgu o sefyllfaoedd anodd. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gryfderau eich teulu, a'i nod yw adeiladu ar y rhain fel eich bod chi mewn sefyllfa well i ymdrin â sefyllfaoedd a allai godi yn y dyfodol.

    

Gyda beth ydych chi'n rhoi cymorth?

Rydyn ni'n deall bod pob teulu yn unigryw a bydd y cymorth y bydd ei angen arnoch chi'n dibynnu ar eich sefyllfa benodol, ond dyma rai enghreifftiau o'r pethau y mae modd i ni roi cymorth i chi mewn perthynas â nhw:

  • Arferion bob dydd
  • Materion Tai
  • Cyllid
  • Lleferydd ac Iaith
  • Addysg
  • Cyflogaeth a hyfforddiant   
  • Perthynas y teulu

Sut mae'n gweithio?

Cam 1: Bydd rhywun o'n carfan asesu yn cwblhau asesiad wyneb yn wyneb gyda chi, o fewn pythefnos o dderbyn eich atgyfeiriad. Byddan nhw'n edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda o fewn eich teulu a pha feysydd sydd angen cymorth ychwanegol.

Cam 2: Unwaith y bydd yr asesiad cychwynnol wedi'i gynnal, bydd cynllun sy'n cael ei arwain gan y teulu yn cael ei greu. Bydd hwn yn edrych ar y nodau y mae eich teulu eisiau eu cyflawni a sut y mae modd blaenoriaethu'r rhain.

Cam 3: Ar y pwynt yma, byddwch chi'n cael cyfarfod trosglwyddo gyda'ch aseswr a'ch gweithiwr ymyrraeth newydd. Dyma lle mae'r gweithiwr ymyrraeth yn cytuno ar eich nodau a chaiff camau gweithredu eu rhoi ar waith i'w cyflawni. Bydd rôl yr aseswr yn dod i ben yn y cam yma a bydd y gweithiwr ymyrraeth yn cymryd drosodd ac yn dod yn bwynt cyswllt i chi.

Cam 4: Byddwch chi’n derbyn chwe wythnos o gymorth yn ystod y cam yma. Bydd eich gweithiwr ymyrraeth yn cydlynu eich cynllun teulu a'r holl wasanaethau fydd yn gweithio gyda chi. Yn ystod y chwe wythnos yma, gallech chi ddisgwyl gweithio gyda sawl unigolyn proffesiynol er mwyn bodloni'r nodau y cytunwyd arnyn nhw. Dim ond os byddwch chi a'ch teulu yn rhoi caniatâd y byddwn ni'n cysylltu â gwasanaethau allanol a gweithwyr proffesiynol.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y cytunir bod angen rhagor o gymorth, ac efallai y byddwch chi’n cael chwe wythnos arall o gymorth. Bydd hyn yn cael ei drafod gyda theuluoedd yn unigol.

Sut y mae modd i mi gael cymorth?

Mae modd i deuluoedd atgyfeirio eu hunain drwy ffonio'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth ar 01443 425006.

Efallai y byddwch chi hefyd yn cael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol, megis eich Ymwelydd Iechyd, Gweithiwr Cymdeithasol, yr ysgol ac eraill.

Os ydych chi eisoes wedi derbyn cymorth gan y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, bydd angen i chi aros 3 mis cyn y bydd modd gwneud atgyfeiriad newydd, oni bai bod materion newydd yr hoffech chi gael cymorth gyda nhw. Os yw'r materion yn newydd ac nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'r atgyfeiriad blaenorol, mae modd i chi atgyfeirio'n ôl ar unwaith.

Mae modd i weithwyr proffesiynol atgyfeirio drwy lenwi ffurflen C1 a'i hanfon mewn e-bost at y garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, iaateam@rctcbc.gov.uk

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi?

Os byddwch chi'n ffonio i atgyfeirio eich hunain at ein gwasanaeth, bydd angen rhywfaint o fanylion arnom ni i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i'ch helpu chi a'ch teulu. Bydd angen y canlynol arnom ni:

-          Gwybodaeth am beth sy'n digwydd o fewn eich teulu ar hyn o bryd

-          Rhif ffôn

-          Cyfeiriad

-          Cyfeiriad e-bost

-          Gwybodaeth am y teulu (pwy sydd yn eich teulu)

-          Caniatâd gan y teulu

Rydw i eisiau gwybod rhagor am y gwasanaeth yma

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 281435 neu e-bostio GTC@rctcbc.gov.uk.

Mae modd i chi hefyd fynd i www.teuluoeddrhct.co.uk

Gyda phwy y gallwn i gwrdd â nhw yn ystod fy amser gyda'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth?

Mae yna lawer o garfanau a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio’n rhan o'n Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Dyma rai o'n carfanau canolog:

Y Garfan Asesu, Broceriaeth ac Adolygu: Mae'r garfan yma'n cynnal yr asesiad cychwynnol pan fyddwch chi'n atgyfeirio at ein gwasanaeth. Dyma'r garfan a fydd yn casglu gwybodaeth gennych chi ac yn ei defnyddio i helpu i lywio'r Cynllun Teulu.

Y Garfan i Deuluoedd: Y garfan yma yw un o'n carfanau gweithwyr ymyrraeth. Byddan nhw'n darparu pwynt cyswllt canolog i deuluoedd ac yn cynnig cymorth uniongyrchol i sicrhau bod y cynllun ymyrraeth yn cael ei gyflawni'n effeithiol.

Y Garfan Teuluoedd a Mwy: Mae'r garfan yma'n gweithio gyda theuluoedd y nodir bod angen ymyrraeth ddwys arnyn nhw yn dilyn yr asesiad cychwynnol. Mae'r garfan yma’n tueddu i weithio gyda theuluoedd sydd wedi’u hisraddio o ymyrraeth y Gwasanaethau i Blant, neu ar gyfer teuluoedd sydd angen lefelau uchel o gymorth ond nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth statudol.

Carfan y Gwasanaethau i Blant ag Anghenion Ychwanegol: Mae'r Garfan yma'n gweithio gyda theuluoedd lle mae anghenion amhariad niwroddatblygiadol, gwybyddol neu gorfforol eu plentyn neu blant o dan y trothwy statudol ar gyfer ymyrraeth. Mae Carfan y Gwasanaethau i Blant ag Anghenion Ychwanegol yn cynnig cymorth arbenigol i ddeall a rheoli anghenion eu plentyn/plant a/neu fynd i'r afael ag effaith hyn ar y teulu ehangach. Mae'r garfan yma'n cynnwys gwaith ymyrraeth (fel yn y Garfan i Deuluoedd) ond yn cynnig cymorth mwy arbenigol sy'n benodol i blant ag anghenion ychwanegol.