Mae modd i weithiwr cymdeithasol helpu i dy gefnogi di a dy deulu ar adegau anodd. Efallai bod dy rieni neu warcheidwad wedi gofyn am help, neu efallai bod rhywun fel athro neu feddyg wedi cyfeirio dy deulu at y Gwasanaethau i Blant.
Mae gweithwyr cymdeithasol eisiau'r gorau i ti a dy deulu ac eisiau helpu i dy gadw'n ddiogel a chefnogi dy les.
Efallai yr hoffet ti wylio'r fideo byr yma gyda dy riant neu warcheidwad, neu rywun rwyt ti'n ymddiried ynddo. Mae modd i ti hefyd ofyn i dy weithiwr cymdeithasol ddweud rhagor wrthot ti am sut y maen nhw'n dy helpu di a dy deulu.