Beth ydy gofal?
Byw mewn gofal yw pan fyddi di'n byw i ffwrdd oddi wrth dy rieni. Byddai modd i ti fyw:
- gyda rhieni maeth
- gydag aelod arall o'r teulu
- mewn cartref plant
- mewn ysgol breswyl
- yn lled-annibynnol gyda'n cefnogaeth ni.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod gyda ti rywle diogel i fyw.
Pam ydw i wedi dod i mewn i'r system ofal?
Mae llawer o resymau gwahanol dros ddod i mewn i'r system ofal. Er enghraifft:
- Does dim modd i dy deulu ofalu amdanat ti ar hyn o bryd
- Mae pethau'n anodd gartref
- Er mwyn dy gadw di'n ddiogel
Mae modd i dy Weithiwr Cymdeithasol ddweud wrthot ti pam dy fod di wedi dod i mewn i'r system ofal.