Beth yw asesiad ar gyfer gofal a chymorth?
Weithiau mae angen cymorth ar ein rhieni/gwarcheidwaid i ofalu amdanom ni. Byddwn ni'n gweithio ochr yn ochr â ti a dy deulu er mwyn sicrhau dy fod di'n cael dy gadw'n ddiogel ac yn cael gofal da.
Byddwn ni eisiau gwybod beth rwyt ti / dy deulu yn meddwl sy'n bwysig a beth hoffech chi ei newid (os unrhyw beth). Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod dy anghenion addysg ac iechyd yn cael eu bodloni.
Beth yw Cynllun Gofal a Chymorth?
Os yw'n addas, byddwn ni'n helpu i dy gefnogi di a dy deulu gyda chynllun Gofal a Chymorth sy'n dweud sut y byddi di'n derbyn cymorth i wneud yn siŵr dy fod di'n ddiogel, yn iach ac yn hapus.
Pwy fydd yn rhan o'r cynllun yma?
Byddi di / dy deulu yn rhan o'r gwaith datblygu a bydd yr hyn sy'n bwysig i ti hefyd yn rhan ohono.
Mae pobl eraill sy'n debygol o fod yn rhan o ddatblygu'r cynllun yn cynnwys athrawon ac ymwelwyr iechyd sy'n ymwneud â dy fywyd. Mae'r math o gefnogaeth a allai fod yn rhan o’r cynllun yn cynnwys dy gefnogi di gydag arferion/trefniadau, cefnogaeth gyda'r ysgol a'r gefnogaeth y gall fod ei hangen arnat ti.