Trosolwg o'r Cynllun
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r posibilrwydd o wneud taliad arian parod untro gwerth £100 i nifer gyfyngedig o aelwydydd anabl incwm isel. Pwrpas y taliad yw darparu cefnogaeth i garfan benodol sydd mewn perygl penodol oherwydd anghenion ynni uwch yn y gaeaf.
Bwriad y taliad untro yw lleddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol y mae aelwydydd incwm isel sydd â phreswylydd sy'n anabl yn eu hwynebu'r gaeaf yma. Er enghraifft, byddai modd i'r taliad helpu rhai aelwydydd i leihau eu risg o wynebu dyled ynni. Byddai modd i’r taliad hefyd wella lles meddyliol aelodau'r aelwyd drwy leihau'r straen sy'n gysylltiedig â phryderon ariannol.
Y prif bwrpas yw i'r taliad fod yn daliad arian parod lle bo modd (yn hytrach na chredyd i gyfrif neu daleb) ac un lle y mae modd i'r derbynnydd ddewis sut mae'r taliad yn cael ei wario. Mae'n bwysig felly mai'r sefyllfa ddiofyn yw bod modd i dderbynwyr cymwys ddewis i ba gyfrif banc y caiff y taliad ei wneud.
Cymhwysedd ar gyfer taliadau Cynllun Cymorth Gostyngiad Band Anabl incwm isel
Mae'r Cyngor wedi nodi'r tai hynny a fydd yn gymwys i dderbyn taliad o'r cynllun hwn drwy gofnodion Treth y Cyngor ac yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y tai hynny i wneud eu hawl. Os na fyddwch yn derbyn llythyr gan y Cyngor am y cynllun hwn, ni fyddwch yn cael eich ystyried yn gymwys ac dylech osgoi cysylltu â'r Cyngor amdano.
Mae modd gwneud taliad gwerth £100 i aelwyd o dan y cynllun os caiff y ddau amod canlynol eu bodloni.
1. Amod Hawl i Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Os oedd y person(au) y mae modd eu hadnabod fel rhai sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor gan yr awdurdod lleol yn derbyn neu wedi gwneud cais am gymorth (ac roedd y cais hwnnw'n llwyddiannus) drwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 31 Hydref 2025, cânt eu hasesu'n awtomatig fel rhai sy'n gymwys i gael taliad o £100 os ydyn nhw hefyd yn bodloni'r amod Gostyngiad Band Anabl (DBR).
2. Amod Gostyngiad Band Anabl
Rhaid i aelwydydd sy'n derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor fodloni'r meini prawf canlynol hefyd:
- Cael Gostyngiad Band Anabl wedi'i gymhwyso i'r cartref ar 31 Hydref 2025
- Cael cais wedi'i gyflwyno am Ostyngiad Band Anabl ar (neu cyn) 31 Hydref 2025 (a gafodd ei gymeradwyo wedi hynny); a
- Rhaid i'r preswylydd anabl y mae'r Gostyngiad Band Anabl yn ymwneud ag ef fod yn byw yn yr eiddo hwnnw fel ei brif gartref ar 31 Hydref 2025.
Bydd modd i awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r cynllun wneud y dybiaeth resymol bod yr aelwyd(ydd) sy'n atebol i dalu Treth y Cyngor hefyd yn gyfrifol am dalu'r cyfleustodau a biliau rheolaidd eraill.
Mae pob aelwyd wedi'i chyfyngu i un taliad o £100 yn unig.
Dim ond un taliad sydd i'w wneud mewn perthynas ag unrhyw annedd sengl o dan y cynllun. Mewn achosion o atebolrwydd ar y cyd ac unigol, dim ond un taliad sydd i'w wneud, a dylid ei dalu i'r person cyntaf a enwir ar y bil Treth y Cyngor oni bai ei fod yn cael ei hysbysu'n wahanol. Lle nad yw hyn yn bosibl, mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i nodi'r person mwyaf priodol y dylid gwneud y taliad iddo.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Chwefror 2026.
Cwestiynau Cyffredinol
- C. Os oes modd i awdurdodau nodi pa gartrefi sy'n gymwys ac mae gyda nhw fanylion banc cyfredol ar eu cyfer nhw, a oes modd i'r taliad Cymorth Gostyngiad Band Anabl gael ei wneud heb orfod cadarnhau manylion?
- Nac oes – rydyn ni'n argymell bod awdurdodau lleol yn cysylltu â chyfranogwyr cymwys i sicrhau bod y manylion banc sydd gyda nhw'n cyfateb i’r cyfrif y byddai’r person yn hoffi i’r taliad gael ei wneud iddo. Yn ogystal â hyn, bydd angen i'r awdurdod lleol wirio drwy'r ffurflen gofrestru bod y person sy'n gymwys ar gyfer y Gostyngiad Band Anabl yn dal i fyw yn yr eiddo.
- C. Bydd grwpiau o gartrefi incwm isel sydd ddim yn gorfod talu Treth y Cyngor. Pam bod y rhain ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun?
- Bwriad y cynllun yw rhoi cymorth i garfan arwahanol y mae modd ei hadnabod yn hawdd trwy ddata Treth y Cyngor.
- Mae modd i aelwydydd hefyd wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) os ydyn nhw'n profi caledi ariannol. https://www.llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf
- C. A fydd y £100 yn effeithio ar fudd-daliadau profion modd?
- Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau bod taliadau a gafodd eu gwneud yn rhan o Ddarpariaeth Lles Lleol ddim yn cael eu hystyried yn yr asesiad Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, felly fydd y rhain ddim yn cael eu heffeithio. Fydd dim newidiadau i'r rheiny sy'n hawlio Credyd Uniongyrchol oherwydd eu bod nhw'n derbyn y taliad yma.
- C. Mae rhywun yn berchen ar ddau eiddo yng Nghymru, ydy ef/hi/nhw'n gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun?
- Dim ond ar gyfer prif gartref y person(au) (os ydy un o'r tai yma'n brif gartref iddo ef/iddi hi/iddyn nhw).
- Oes dyddiad targed ar gyfer gwneud taliadau?
- Oes. Rhaid gwneud pob taliad erbyn mis Mawrth 2026; fodd bynnag, caiff awdurdodau lleol eu hannog i wneud taliadau cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud penderfyniad i ddyfarnu'r taliad.
- C. A oes modd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu taliad yn rhan o'r Cynllun Gostyngiad Band Anabl?
- Nac oes. Does dim hawl gan unrhyw un i apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â chymeradwyo taliad, gan y bydd gwrthwynebiad yn codi yn sgil y ffaith bod y cartref ddim yn diwallu amodau'r cynllun.