Mae'r cynllun yn caniatáu i gartrefi cymwys wneud cais am daliad untro o £200 os ydyn nhw'n derbyn cymorth drwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ac yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig (LPG).
Ar y dudalen yma:
- Beth yw'r cynllun
- Meini Prawf Cymhwysedd
- Gwneud cais ar gyfer y cynllun
- Sut mae taliadau'n cael eu gwneud
- Apelio yn erbyn penderfyniad
Beth yw'r cynllun?
Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £3.8 miliwn i Gymru i gefnogi pobl ar incwm isel sy'n cael eu heffeithio gan gostau ynni uchel oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Bydd cartrefi cymwys yn derbyn taliad untro o £200 os ydyn nhw’n derbyn cymorth drwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ac yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig (LPG).
Bwriad y taliad yma yw lleddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol y mae cartrefi incwm isel yn eu hwynebu oherwydd costau cynyddol olew gwresogi a nwy petrolewm hylifedig. Bydd y taliad o bosibl yn helpu cartrefi i wneud archeb na fydden nhw fel arall yn gallu’i fforddio. Bydd y taliad hefyd helpu i leihau'r risg o fynd i ragor o ddyled os yw aelwyd wedi talu am archeb yn ddiweddar am gost llawer uwch na chyn y gwrthdaro. Mae’n bosibl y bydd lleihau pryderon ariannol hefyd yn helpu i wella lles meddyliol y bobl sy'n byw yn yr aelwyd.
Y prif nod yw gwneud y taliad arian parod lle bynnag y bo modd, yn hytrach nag ar ffurf credyd ar gyfrif neu daleb. Bydd hyn yn galluogi’r derbynnydd i benderfynu sut maen nhw'n defnyddio'r arian. Mae modd i gartrefi cymwys ddewis i ba gyfrif banc y gwneir y taliad.
Yn ôl I'r brig
Meini Prawf Cymhwysedd
Bydd modd gwneud taliad o £200 i aelwyd os ydyn nhw'n bodloni'r ddau amod isod.
1. Amod mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Rhaid bod y person neu'r bobl sydd wedi'u nodi gan yr awdurdod lleol fel y rhai sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor wedi bod yn derbyn cymorth drwy'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor neu wedi gwneud cais llwyddiannus amdano, rywbryd rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026.
2. Mae prif wres yr eiddo’n cael ei ddarparu gan olew gwresogi neu LPG
Rhaid i aelwydydd sy'n derbyn cymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor hefyd fodloni'r holl amodau canlynol:
- Eu prif ffynhonnell gwresogi neu ddŵr poeth yw olew gwresogi neu LPG.
- Rhaid darparu tystiolaeth megis bil sy'n dangos yr un cyfeiriad â chyfeiriad yr hawlydd. Dylai’r bil fod wedi’i ddyddio o fewn y chwe mis diwethaf.
- Mae'r hawlydd yn byw yn yr a dyma yw ei brif gartref.
Mae modd i awdurdodau lleol sy'n cynnal y cynllun dybio'n rhesymol fod cartrefi sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor hefyd yn gyfrifol am dalu am olew gwresogi neu LPG.
Un taliad fesul aelwyd
Dim ond un taliad o £200 y mae modd i bob aelwyd ei dderbyn o dan y cynllun.
Lle mae cyfrifoldeb am dalu Treth y Cyngor yn cael ei rannu, dim ond un taliad a wneir. Fel arfer, bydd hyn yn cael ei dalu i'r person cyntaf sydd wedi'i enwi ar y bil Treth y Cyngor, oni bai bod yr awdurdod lleol yn cael gwybod fel arall. Os nad yw hyn yn bosibl, mae modd i'r awdurdod lleol benderfynu pwy yw'r person mwyaf priodol i dderbyn y taliad.
Taliadau prif eiddo yn unig
Dim ond ar gyfer yr eiddo y mae person yn byw ynddo fel ei brif gartref y mae modd gwneud taliad. Dydy ail gartrefi ddim wedi'u cynnwys yn y cynllun.
Dim effaith ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau bod taliadau sy'n cael eu gwneud dan y Ddarpariaeth Lles Leol yn cael eu hanwybyddu wrth asesu hawl i Gymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Seiliedig ar Incwm, sy'n golygu na fydd y budd-daliadau yma’n cael eu heffeithio. Hefyd, fydd pobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol ddim yn gweld unrhyw newid i'w hawl o ganlyniad i dderbyn y taliad yma.
Yn ôl I'r brig
Gwneud cais ar gyfer y Cynllun Cymorth
Gwneud cais am gymorth tanwydd gwresogi oddi ar y grid
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.
Sut y mae taliadau'n cael eu gwneud
Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu â chartrefi cymwys i gadarnhau bod y manylion banc sydd gyda nhw’n cyfateb i’r cyfrif banc y mae’r unigolyn yn dymuno ei ddefnyddio i dderbyn y taliad. Rhaid iddyn nhw hefyd gadarnhau bod olew gwresogi neu LPG yn cael ei ddefnyddio o hyd fel y brif ffynhonnell wresogi yn yr eiddo.
Apelio yn erbyn penderfyniad
Does dim hawl gyda chi i apelio. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud i beidio â dyfarnu taliad lle nad yw'r aelwyd yn bodloni amodau'r cynllun.
Yn ôl I'r brig