Beth yw treth y Cyngor?
Mae treth y Cyngor yn cael ei godi ar bob aelwyd yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n helpu i dalu am wasanaethau lleol megis:
- Ysgolion ac addysg
- Gwasanaethau i blant
- Gofal cymdeithasol i oedolion
- Ffyrdd a Phriffyrdd
- Casgliadau ailgylchu a gwastraff
- Cynllunio ar gyfer argyfwng
- Hamdden
Treth y cyngor a chyllideb y Cyngor 2026 tan 2027
Mae'r Cyngor yn cael incwm drwy dreth y Cyngor, ardrethi busnes, grantiau gan y llywodraeth, taliadau a ffioedd; mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at gostau'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.
Bob blwyddyn rydyn ni'n cyhoeddi canllaw ac ynddo esboniad o'r modd mae ein cyllideb yn cael ei hariannu.
Lawrlwythwch ein canllaw ynghylch treth y Cyngor ac ardrethi an-nomestig.
Tarddiad ein cyllideb a'r modd rydyn ni'n ei gwario
Cyllideb heddlu De Cymru a swyddfa'r comisiynydd
Mae'r Cyngor yn casglu treth hefyd ar ran Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
Lawrlwytho Cyllideb Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
Adolygu disgowntiau a gostyngiadau treth y Cyngor
Rydyn ni'n adolygu ein cofnodion yn barhaus o ran pwy sy'n cael disgowntiau, gostyngiadau ac eithriadau o ran treth y Cyngor; diben hyn yw gofalu mai dim ond y bobl gymwys sy'n parhau i'w cael.
Adolygu disgownt person sengl
Rydyn ni'n adolygu disgowntiau personau sengl o ran treth y Cyngor er mwyn gofalu mai dim ond y bobl sydd â hawl i ostyngiadau sy'n eu cael.
Rydyn ni'n gwneud hyn drwy gymharu ein cofnodion ein hunain â'r cofnodion y mae asiantaethau eraill yn dal gafael arnyn nhw. Os ydych chi'n cael disgownt ond bod dim hawl gyda chi iddo, fe fyddwn ni'n cael gwared arno ac yn ei ôl-ddyddio ar sail y dyddiadau sydd ar gael.
Os bydd llythyr neu e-bost adolygu yn eich cyrraedd, rhaid i chi roi gwybod i ni am eich amgylchiadau presennol fel bod modd i ni ddiweddaru ein cofnodion.
Mae modd i chi gwblhau eich adolygiad ar-lein, dyma’r ffordd fwyaf hawdd o wneud hynny. Bydd arnoch chi angen eich...
- Rhif adnabod personol unigryw
- Rhif cyfrif treth y Cyngor:
- Cod post
Cewch y manylion yma ar y llythyr neu'r e-bost yr ydyn ni wedi'i anfon atoch chi.
Os ydych chi'n cael disgownt a bod gyda chi ddim hawl iddo bellach, fe fyddwn yn cael gwared arno ac yn ei ôl-ddyddio ar sail y dystiolaeth sydd ar gael. Lle mae'n briodol, mae'n bosibl y byddwn ni'n codi cosb ariannol neu'n cymryd camau cyfreithiol.
Er mwyn gofalu bod yr wybodaeth rydyn ni'n dal gafael arni amdanoch chi'n cael ei diweddaru o hyd, rhowch wybod i ni os yw'ch amgylchiadau wedi newid.