Dyma'r drefn
Os yw eiddo yn Rhondda Cynon Taf yn wag am amser maith, neu ei fod wedi'i ddodrefnu ond does neb yn byw ynddo, mae'n bosibl y bydd raid talu premiwm treth y Cyngor. Mae hwn yn ffi ychwanegol ar ben eich treth y Cyngor arferol.
Bydd y premiwm y mae rhaid i chi ei dalu i'w weld ar eich bil treth y Cyngor.
Beth yw eiddo gwag yn hir dymor neu eiddo gwag sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol
Byddai eich eiddo'n cael ei drin yn eiddo gwag yn hir dymor os bydd yn bodloni'r amodau yma i gyd:
- Does neb yn byw ynddo
- Does dim digon o ddodrefn yno at ddibenion ei ddefnyddio mewn modd arferol
- Mae wedi bod yn y cyflwr yma am 12 mis neu hwy
Byddai eich eiddo'n cael ei drin yn eiddo gwag sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol os bydd yn bodloni'r amodau yma i gyd:
- Mae rhywun yn byw ynddo'n achlysurol yn unig (neu ddim o gwbl)
- Mae wedi'i ddodrefnu
- Dyw hwn ddim yn brif neu unig gartref y perchnogion
Costau'r premiwm
Os yw eich eiddo wedi bod yn wag am rhwng 1 a 3 mlynedd, bydd premiwm treth y Cyngor o 100% yn cael ei godi arnoch chi (dwbl y ffi treth y Cyngor arferol).
Os yw'ch eiddo wedi bod yn wag am fwy na 3 mlynedd, bydd premiwm treth y Cyngor o 200% yn cael ei godi arnoch chi (tair gwaith y ffi treth y Cyngor arferol).
Premiymau eiddo gwag sydd wedi'u dodrefnu’n sylweddol
Os yw'ch eiddo wedi'i ddodrefnu ond does neb yn byw ynddo, bydd premiwm treth y Cyngor o 100% yn cael ei godi arnoch chi (sef dwbl y ffi treth y Cyngor arferol)
Eithriadau o ran y premiwm
Isod mae rhestr o eithriadau i'r premiwm sydd o bosibl yn berthnasol:
- Eiddo sydd ar werth (Dosbarth 1)
- Mae'n cael ei farchnata'n weithredol felly ar bris rhesymol
- Mae gwerthiant wedi'i gytuno arno, ond heb ei gwblhau eto
- Eithriad dros dro yw hwn sy'n para am gyfnod o hyd at flwyddyn.
- Eiddo i'w rhentu (Dosbarth 2)
- Mae'n cael ei farchnata'n weithredol felly o ran cael ei rentu, a hynny ar bris rhesymol
- Mae'r denantiaeth wedi'i chytuno arni, ond dyw hi heb ddechrau eto
- Eithriad dros dro yw hwn sy'n para am gyfnod o flwyddyn yn unig.
- Rhandy (Dosbarth 3)
- Rhan o brif gartref, neu sy'n cael ei ddefnyddio felly
- Llety ar gyfer y lluoedd arfog (Dosbarth 4)
- Byddai'r eiddo'n brif gartref pe byddai dim gofyn i'r person fyw mewn llety'r lluoedd arfog
- Safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod (Dosbarth 5)
- Safleoedd carafanau neu angorfeydd cychod sy'n cael eu defnyddio (Yn berthnasol i ail gartrefi'n unig)
- Cyfyngiadau cynllunio (Dosbarth 6)
- Yn ôl amodau cynllunio does dim modd byw yn yr eiddo drwy gydol y flwyddyn a does dim modd iddo fod yn brif gartref chwaith (Yn berthnasol i ail gartrefi'n unig)
- Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi (Dosbarth 7)
- Mae cysylltiad rhwng yr eiddo â chyflogaeth a rhaid i'r person dan sylw fyw yn yr eiddo dan sylw yn sgil gofynion y swydd (Yn berthnasol i ail gartrefi'n unig)
Gwneud cais am eithriad i'ch premiwm
Cyn i chi ddechrau
Bydd gofyn i chi ddarparu'r dystiolaeth berthnasol i atgyfnerthu eich cais am eithriad. Bydd gofyn i'r dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch chi fod yn ymwneud â dosbarth yr eithriad sy'n berthnasol i chi
Gall hyn gynnwys:
- contract asiantaeth dai neu osod
- hysbysebion o ran gwerthu'r eiddo neu ei rentu
- tystysgrifau Perfformiad Ynni neu Dystysgrifau Diogelwch Nwy
- Bil treth y cyngor yn dangos atebolrwydd am eiddo arall
- contractau cyflogaeth
- cyfriflenni cyflog neu ffurflenni treth
- llythyrau gan gyflogwr ar gyfer personél yn y Lluoedd Arfog neu Weinidogion Crefydd
Gwneud cais am eithriad i'ch premiwm treth y Cyngor
Cymorth o ran dychwelyd eiddo i fod yn cael ei ddefnyddio'n llawn drachefn
Fydd premiwm ddim yn cael ei godi arnoch chi os byddwch chi'n dychwelyd eiddo i fod yn cael ei ddefnyddio'n llawn drachefn. Mae'n bosibl y bydd modd i chi wneud hyn drwy ailwampio, rhentu neu werthu eich eiddo.
Bwriwch olwg ar ein cyngor ar gyfer perchnogion tai gwag.
Dyma'n rheswm dros godi premiwm
Mae'r premiwm yn cael ei ddefnyddio'n adnodd i helpu i ddychwelyd cartrefi gwag i fod yn cael eu defnyddio drachefn drwy'r Grant Cartrefi Gwag; mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i wella eiddo gwag fel bod modd byw ynddyn nhw drachefn.
Bydd yr incwm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i:
Mae sawl cartref gwag wedi cael cymorth yn sgil y Grant Cartrefi Gwag, ac mae wedi'i gydnabod yn arfer da gan Lywodraeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth am y Grant Cartrefi Gwag.
Bwriwch olwg ar ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch treth y Cyngor ar eiddo gwag ac ail gartrefi.
Bwriwch olwg ar adroddiadau Premiwm treth y Cyngor, Rhondda Cynon Taf