Nodyn atgoffa ar gyfer taliadau sydd wedi'u colli
Os na fyddwch chi'n talu eich treth y Cyngor ar amser, a'n bod ni'n dal gafael ar wybodaeth amdanoch chi, mae'n bosibl y byddwn ni'n cysylltu gyda chi i ofyn am y taliad, mewn:
- neges destun
- e-bost
- galwad ffôn â neges wedi'i recordio ymlaen llaw
Bwriwch olwg ar y cynnwys y dylech ddisgwyl ei gael ar gyfer pob math o neges:
Negeseuon testun
Bydd y neges destun yn cael ei hanfon gan 'CBSRhCT'. Bydd eich enw, fel y mae'n ymddangos ar eich bil treth y Cyngor yn y neges, a bydd cais ynddi ichi glicio ar ddolen er mwyn dilysu eich hunaniaeth:

Bydd y ddolen yn cynnwys 'rctcbc.gov.uk' bob amser ac unwaith y byddwch chi'n clicio, bydd yn dangos tudalen wirio i chi gadarnhau eich cod post

Once your identity has been confirmed, you will be redirected to a new page which will detail your outstanding Council Tax payment(s) and provide you with further links to be able to make payment, via both our automated payment line, and our website. It will also provide you contact details should you wish to discuss your outstanding payment(s):

E-mail
The e-mail will be sent from email@revenuesinfo.rctcbc.gov.uk . It will include your name, as it appears on your Council Tax bill, and will detail your outstanding Council Tax payment(s). The email will provide you with links to be able to make payment, via both our automated payment line, and our website. It will also provide you contact details should you wish to discuss your outstanding payment(s):
Galwad ffôn â neges wedi'i recordio ymlaen llaw
Os byddwn ni'n eich ffonio chi, dyma fydd ein rhif 01443 425002, a bydd yn ymddangos fel 'CBSRhCT'.
Pan fyddwch yn ateb, bydd cais yn y neges wedi'i recordio i chi gadarnhau eich hunaniaeth, yna, bydd manylion ynddi ynghylch eich taliadau Treth y Cyngor sy'n ddyledus a'r opsiynau o ran y modd talu.
Nodyn Atgoffa
Os na fyddwch chi'n talu eich Treth y Cyngor, byddwn ni'n anfon hysbysiad atoch i'ch atgoffa. Byddwn yn gofyn i chi wneud y taliadau dyledus.
Os na fyddwch chi'n gwneud y taliadau dyledus o fewn y cyfnod amser sydd wedi'i nodi yn y llythyr, byddwn ni'n cyflwyno nodyn atgoffa terfynol i chi. Os na fyddwch chi'n cydymffurfio â'r nodyn atgoffa terfynol, byddwch chi'n colli'ch hawl i dalu fesul rhandaliad a byddwn ni'n gofyn i chi dalu'r swm llawn sy'n ddyledus gennych chi ar gyfer y flwyddyn treth y Cyngor yma.
Os does dim modd i chi dalu'r hyn sy'n ofynnol ffoniwch Carfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor ar (01443) 425002 er mwyn cytuno ar drefniant priodol. Os na wnewch chi hyn, bydd gwŷs yn cael ei anfon atoch chi a bydd rhagor o gostau yn cael eu codi arnoch chi.
Gwŷs y llys a gorchmynion atebolrwydd
Os na fyddwch chi'n talu eich treth y Cyngor, byddwn ni'n anfon nodyn atgoffa cyn-gwŷs atoch chi ac ynddo gais i chi dalu'r swm llawn sy'n ddyledus gennych chi ar gyfer y flwyddyn treth y Cyngor yma. Byddwn ni'n anfon nodyn atgoffa cyn-gwŷs atoch chi mewn:
- neges destun
- e-bost
- galwad ffôn â neges wedi'i recordio ymlaen llaw.
Os na fyddwch chi'n talu'r hyn sy'n ddyledus gennych chi, byddwn ni'n dwyn eich achos i'r llys ac yn gwneud cais am orchymyn atebolrwydd. Mae'r gorchymyn atebolrwydd yn rhoi pwerau ychwanegol i ni o ran casglu'r arian sy'n ddyledus gennych chi. Mae gyda chi'r hawl i fod yn bresennol yn y gwrandawiad llys.
Os bydd y llys yn rhoi gorchymyn atebolrwydd i ni, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi ac yn gofyn i chi gwblhau ffurflen ynghylch eich amgylchiadau ariannol. Os na fyddwch chi'n cwblhau'r ffurflen yma ac yn ei dychwelyd, mae'n bosibl y bydd Llys yr Ynadon yn rhoi dirwy o hyd at £500 i chi.
Mae'r gorchymyn atebolrwydd yn rhoi'r pŵer i ni gymryd swm penodol o arian allan o'ch incwm yn uniongyrchol.
Os ydych chi'n ennill cyflog neu dâl, byddwn ni'n anfon ffurflen atodiad enillion at eich cyflogwr.
Os ydych chi'n cael budd-daliadau, byddwn ni'n siarad yn uniongyrchol â'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Casgliadau Asiant Gorfodi
Os bydd pob ymdrech arall i gytuno ar drefniant talu wedi bod yn aflwyddiannus, byddwn ni'n pasio'r ddyled ymlaen at yr Asiantau Gorfodi sydd wedi'u penodi gennym ni. Canlyniad hyn fydd ychwanegu costau a ffioedd pellach i'ch cyfrif.
Os fydd dim modd i Asiantau Gorfodi gasglu'r ddyled, byddwn ni'n gwneud cais i'ch gwneud chi'n fethdalwr neu'n rhoi gorchymyn arwystlo ar eich eiddo. Bydd y camau gweithredu yma'n arwain at ragor o gostau a ffioedd.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth neu gyngor ffoniwch:
01443 425002