Mae ‘Alabama Rot’ yn enw sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio clefyd sydd wedi’i gysylltu ag ymosodiad sydyn ar arennau cŵn. Mae hyn, fel arfer, yn dechrau fel briwiau neu anafiadau ar waelod y coesau.
Dydy Alabama Rot ddim yn afiechyd milheintiol nac ychwaith yn afiechyd mae rhaid adrodd amdano i’r awdurdodau (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Lleol).
Os nad oes modd i chi gael gafael ar unrhyw gyngor swyddogol, dyma ddolen gyswllt i wefan Cymdeithas Milfeddygon Prydain sy’n rhoi gwybodaeth sylfaenol ac sy’n cynnwys dolen gyswllt arall i wefan trydydd parti sy’n cynnig gwybodaeth fwy clinigol.
Mae’n debyg nad oes llawer o wybodaeth ar gael am achosion yr afiechyd ac mae’r cyngor yn ymwneud â glanhau cŵn ar ôl iddyn nhw fod am dro, yn arbennig os ydyn nhw wedi bod mewn mannau mwdlyd a choediog. Y cyngor gorau yw i beidio â mynd â’ch cŵn am dro ar Gomin Llantrisant - mae’r cyngor yma wedi cael ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol gan filfeddygon amrywiol ac yn cael ei ategu gan Ymddiriedolaeth Tref Llantrisant.
Os oes pryderon gyda chi am eich ci, mynnwch gyngor gan eich milfeddyg lleol.