Skip to main content

Cŵn coll a chŵn crwydr

Bydd y Wardeniaid Cŵn/Anifeiliaid yn ymateb i adroddiadau o gŵn coll neu grwydr (strae).  

Cŵn coll

Ydych chi wedi colli'ch ci? Rhowch wybod i ni a chofiwch roi eich manylion:

  • Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am-5pm , Rhif Ffôn: 01443 425001.
  • Ar ôl 5pm yn ystod yr wythnos a thrwy'r dydd ar benwythnosau a Gwyliau Banc - 01443 425011

Os byddwn ni'n dod o hyd i'ch ci neu'n cael gwybod pod pobl eraill o bosibl wedi'i weld, byddwn ni'n cysylltu â chi.

Yn ogystal â hyn, mae modd i chi weld lluniau o gŵn sydd ar goll ar dudalen Facebook Hope Rescue neu wefan www.hoperescue.org.uk.

Efallai byddwch chi eisiau rhannu manylion am gŵn coll neu rai sydd ar grwydr trwy gyfryngau gwasanaethau cymuned, megis Lost and Found RCT. Dyma wefan y cyfryngau cymdeithasol dan adain gwirfoddolwyr sy'n derbyn llawer o adroddiadau am gŵn coll, rhai sy'n crwydro, a rhai y mae pobl wedi dod ar eu traws.

Nodwch: Dydyn ni ddim yn ymateb i achosion sy'n ymwneud â chathod coll neu gathod crwydr.

Cŵn crwydr

Os byddwch chi'n dod o hyd i gi crwydr, bydd modd cysylltu â ni i roi gwybod a bydd trefniadau'n cael eu gwneud i gasglu'r ci neu fynd ag e i'r cytiau cŵn yn unol â'r wybodaeth a nodir isod:

  • Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am-5pm, Rhif Ffôn: 01443 425001
  • Dyma oriau agor gwasanaeth y tu allan i oriau arferol y cytiau cŵn: 5pm-10pm, dydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am-10pm ar y penwythnos/Gwyliau Banc – Rhif ffôn: 01443 425011

Cysylltu â'r Gwasanaeth

Mae gwasanaeth casglu'r Warden Anifeiliaid yn rhedeg rhwng yr oriau gwaith arferol (9.00am-5.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener) ac mae gwasanaeth brys y tu allan i oriau arferol ar gyfer cŵn crwydr hefyd ar gael – mae'r cytiau cŵn ar agor rhwng 5pm a 10pm, dydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8am a 10pm, ar y penwythnos ac ar Wyliau Banc.  Os bydd aelod o'r cyhoedd yn dod o hyd i gi crwydr yn ystod oriau gwaith arferol (9.00am - 5.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener), bydd angen ffonio Canolfan Alwadau'r Cyngor ar 01443 425001 i drefnu bod Warden Anifeiliaid yn ei gasglu neu i gael rhif cyfeirnod er mwyn mynd â'r ci yn uniongyrchol i'r cytiau cŵn.

Os bydd adroddiad o gi crwydr yn cyrraedd gwasanaeth y tu allan i oriau arferol Canolfan Alwadau'r Cyngor ar 01443 425011 (oriau agor gwasanaeth y tu allan i oriau arferol y cytiau cŵn yw 5pm-10pm, dydd Llun i ddydd Gwener ac 8am - 10pm, ar y penwythnos ac ar Wyliau Banc), bydd rhif cyfeirnod yn cael ei nodi ar gyfer y ci crwydr sydd wedi ei ddal i'w alluogi i gael ei dderbyn yng nghytiau cŵn Hope Rescue yn Llanharan. Os nad oes modd i'r person sydd wedi dal y ci crwydr fynd ag e i'r cytiau cŵn, byddwn ni'n trefnu bod Warden Anifeiliaid yn dod i gasglu'r ci yn ystod oriau gwaith arferol.  Does dim darpariaeth ar hyn o bryd i'r Warden Anifeiliaid gasglu cŵn crwydr y tu allan i'r oriau gwaith penodedig.

Mae cŵn crwydr yn cael eu cadw yn:

Cytiau Hope Rescue

Cynllan Lodge,
Hen Ffordd Llanhari,
Llanharan, CF72 9NH

Llywio â Lloeren: defnyddiwch CF72 9RA

Bydd Wardeiniaid Anifeiliaid yn ceisio dod o hyd i berchnogion y ci. Bydd y Wardeiniaid yn gwirio'r microsglodyn. Os yw'r perchnogion yn dod i gasglu'r ci, bydd ffi briodol yn cael ei chodi. 

Os nad oes gan y ci ficrosglodyn, bydd ffi ychwanegol yn cael ei chodi er mwyn talu am y microsglodyn.

Bydd unrhyw gi crwydr arall yn cael ei gadw'n ddiogel am hyd at saith diwrnod yng nghytiau cŵn Hope Rescue, neu ei ddychwelyd yn unol â'r tâl cytiau cŵn priodol.

Ar ôl saith diwrnod, bydd cyfrifoldeb y Cyngor dros y ci yn dod i ben a bydd Hope Rescue yn dod o hyd i dŷ newydd i'r ci, os yw'n bosib.

Mae'r cytiau cŵn ar agor:

  • Dydd Llun - Dydd Gwener: 9.30am tan 5pm
  • Mae manylion ynglŷn â chasglu cŵn y tu allan i oriau gweithio arferol i'w gweld isod.

Dim ond ar ôl derbyn tâl am ddefnyddio'r cytiau cŵn y bydd cŵn yn cael eu rhoi yn ôl i'w perchnogion. Pe hoffech chi gysylltu â Hope Rescue yn uniongyrchol i ofyn a yw'ch ci yn cael ei gadw yn y cytiau cŵn, ffoniwch 01443 226659.

Gweler y tabl isod am y ffioedd presennol:

Ffioedd y cytiau cŵn:

Nifer y diwrnodau yn y cytiau cŵn (rhaid talu am ddiwrnod llawn os ydy'r ci yn y cytiau cŵn am ran o ddiwrnod)

NIFER Y DIWRNODAU YN Y CYTIAU

1

2

3

4

5

6

 7

FFI STATUDOL (£)

£25

£25

£25

£25

£25

£25

£25

FFI CYTIAU CŴN 

£25.40

£42.30

£59.20

£76.10

£93

£109.90

 £126.80

COST GYFAN (gan gynnwys VAT)

£50.40

£67.30

£84.20

£101.10

£118

£134.90

£151.80

COST GYFAN A PHRIS MICROSGLODYN (gan gynnwys VAT)

£72.60

£89.50

£106.40

£123.30

£140.20

£157.10

£174

NODER: Mae'n bosib bydd ffioedd ychwanegol yn cael eu codi os oes angen i'r ci gael brechiadau neu driniaeth filfeddygol)

Bydd unrhyw gŵyn ynghylch cŵn sy'n crwydro ar safle ysgol neu sy'n amharu ar lif traffig yn cael ei thrin fel mater o frys.

  • Byddwn ni'n ymateb i gwynion sy'n ymwneud â chŵn cyn gynted ag y bo modd. Bydd y warden cŵn yn gweithredu'n gwbl gyfrinachol ac yn eich cadw chi'n hysbys am yr hyn mae'n ei wneud.