Skip to main content

Tir halogedig

Mae dros 3,500 o safleoedd halogedig posibl yn Rhondda Cynon Taf, wedi’u hetifeddu o’r diwydiannau trwm fu mor ffyniannus yma gynt.

Mae’n wir fod llawer o’r safleoedd segur hyn yn eithaf diniwed, ond mae llawer ohonyn nhw’n ddiffaith ac yn difa harddwch bro. Fe allai rhai eraill wneud niwed i iechyd pobl, neu lygru’n hadnoddau dŵr ni. Ond fe allai’r safleodd hyn a gafodd eu datblygu a’u defnyddio o’r blaen (‘safleoedd tir llwyd’) fod yn werthfawr iawn, ac mae llawer ohonyn nhw’n addas i gael eu datblygu. Pe bai’r safleoedd hyn yn cael eu glanhau, byddai modd eu defnyddio mewn ffordd a fyddai o les i’r gymdeithas yn gyffredinol.

Mae prosesau rheoli datblygu yn fodd i gyrraedd y nod hwn, wrth i geisiadau cynllunio gael eu cyflwyno. Bydd yn bosibl ychwanegu amodau at ganiatâd cynllunio ar gyfer y safleoedd hyn. Yn ôl yr amodau hyn, bydd hi’n ofynnol i ymchwilio i’r safleoedd hyn a’u gwneud yn ddiogel i’w defnyddio cyn dechrau’u datblygu.

Dyma’r ffordd y bydd Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yn gweithio gyda chynllunwyr y Cyngor a chyda’r datblygwyr preifat. Bydd y cydweithredu agos yma’n fodd i adfer y safleoedd yn wirfoddol.

Os na fydd adfer gwirfoddol yn bosibl, mae nifer o bŵerau pwrpasol gyda’r Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd. Mae hawl gyda nhw i orfodi’r sawl sy’n llygru ‘tir halogedig’ a gwneud niwed sylweddol, os:

  • oes sylweddau niweidiol yn y tir, arno, neu odano, neu
  • yw sylweddau ar y safle yn achosi llygru dŵr

a lle

  • mae rhywbeth yn y tir (‘halogyn’) yn ffynhonell llygredd
  • mae rhywun neu rywbeth (‘derbynnydd’) yn agored ei gael ei effeithio gan yr halogyn, a bod
  • modd / ‘llwybr’) i’r halogyn effeithio ar y derbynnydd

Rydyn ni wedi nodi 3,500 o safleoedd tir llwyd yn Rhondda Cynon Taf. Ychydig o’r rhain fydd yn dod o dan ddiffiniad y gyfraith o ‘tir halogedig’. Cyn gynted ag y byddwn ni’n penderfynu bod safle’n cynnwys tir halogedig, bydd y safle’n cael ei gofnodi yng Nghofrestr Gyhoeddus y Cyngor.

Strategaeth tir halogedig (2023)

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'i 'Strategaeth Archwilio Tir Halogedig', sy'n nodi sut rydyn ni wedi pennu safleoedd posibl o dir halogedig, sut byddwn ni'n penderfynu pa rai sydd angen blaenoriaeth, a'r camau nesaf.

Mewn rhai achosion (mae'r manylion i'w cael yn y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig), os bydd safle'n cael ei ddatgan yn dir haolgedig, mae'n bosibl y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio'r safle yn lle'r Cyngor.

Ail-ddefnyddio Safleoedd Tir Llwyd

Os byddwch chi’n prynu tir yn Rhondda Cynon Taf, fe ddylech chi ofyn i Adran Pridiannau’r Tir wneud Chwiliad Tir Lleol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi a oes safle wedi cael ei ddatgan yn ‘dir halogedig’. Bydd tâl am y gwasanaeth yma.

 

 

Manylion cyswllt

Ffôn: 01443 425001
Ebost: LlygreddyrAmgylchedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk