Os byddwch chi’n gwneud cwyn am sŵn, bydd ein swyddogion ni’n penderfynu a yw’r sŵn yn niwsans statudol. Os ydy, maen nhw’n cael cymryd camau.
Beth sy’n gwneud niwsans sŵn yn niwsans statudol?
Mae niwsans sŵn yn dod o dan Ran III Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Cyn inni gymryd camau ynglŷn â niwsans sŵn, rhaid inni fod yn siŵr taw niwsans statudol yw e. Mewn geiriau eraill, rhaid inni brofi’i fod yn niweidiol i iechyd a/neu yn amharu’n barhaus ac mewn ffordd afresymol ar eich ffordd o fyw.
Sŵn cymdogion
Mae gormod o sŵn gan gymdogion yn gallu bod yn fater o rwystredigaeth, yn ogystal â pheri llawer o straen a phoendod cwbl ddiangen. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn cadw sŵn dydyn nhw ddim yn sylweddoli’u bod yn creu problem. Os felly, bydd modd i un o’n Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd alw heibio a helpu rhoi pen ar y broblem.
Os bydd y ffordd hon o fynd ati’n methu, mae hawl gyda ni i gyflwyno hysbysiad atal sŵn i’r sawl sy’n creu’r sŵn. Gorchymyn yw hwn sy’n mynnu i bobl beidio â chreu niwsans. Os na fydd y sawl sy’n cael yr hysbysiad atal yn cydymffurfio ag ef, mae modd inni gymryd camau cyfreithiol.
Fyddwn ni ddim yn rhoi sylw i gwynion mewn perthynas â rhai digwyddiadau ac achlysuron, megis partïon unigol a barbeciw.
Swn masnachol
Yn aml iawn, yr un yw’r ffordd o ddelio â sŵn o safleoedd masnachol â’r ffordd o ddelio â sŵn o gartrefi. Ond mae dulliau rheolaeth eraill ar gael ar gyfer tafarnau, clybiau, a lleoedd tebyg sy’n gorfod cael trwydded gan y Cyngor. Os bydd y bobl sy’n goruchwylio’r lleoedd hyn yn gweithredu tu allan i’w cytundebau trwyddedu, mae modd cymryd camau yn eu herbyn.
Safleoedd Adeiladu
Bydd sŵn yn dod o safleoedd adeiladu yn aml iawn. Pan fydd datblygiad ar gerdded, bydd pawb yn cymryd yn ganiataol bod sŵn yn mynd i ddigwydd. Dyna pam bydd y caniatâd cynllunio yn cyfyngu ar yr oriau gwaith yn aml iawn. Yn ogystal â hyn, mae sŵn o safleoedd adeiladu yn dod o dan ddarpariaethau Rhan III Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ynglŷn â niwsans statudol.
Sŵn diwydiannol
Yn ogystal â hyn, mae sŵn o safleoedd adeiladu yn dod o dan ddarpariaethau Rhan III Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ynglŷn â niwsans statudol.
Sŵn awyrennau
Mae sŵn awyrennau’n cael ei eithrio o Ran III Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Gan hynny, does gyda ni ddim cyfrifoldeb uniongyrchol ynglŷn â sŵn awyrennau sy’n cychwyn neu sy’n glanio.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01443 425001
Rhif ffon Argyfwng y tu allan i Oriau Swyddfa: 01443 425001
E-bost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk