Skip to main content

Chelsea Edwards - Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid

Enw: Chelsea Edwards

Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): Ionawr 2017

Swydd bresennol: Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid

Cyn dechrau'r brentisiaeth, beth oeddech chi'n ei wneud?

Astudio am radd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Addysgol, a gweithio'n rhan-amser.

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?

Roeddwn i wastad eisiau astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (‘PGCE’) a bod yn athrawes gymwysedig ysgol gynradd yn gweithio gyda phobl ifainc. Ar ôl meddwl yn ofalus, fe roddais i'r syniad o'r neilltu, oherwydd roeddwn i eisiau mwy o sgiliau, profiad a chymwysterau yn y maes yma yn gyntaf. Cyn i mi wneud cais, fe gefais i wybod byddai angen i mi gynnal amrywiaeth o sesiynau ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd yn rhan o swyddogaethau'r brentisiaeth yma; yn ogystal â gweithio tuag at Dystysgrif NVQ Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad. Byddai hyn, felly, yn caniatáu i mi wireddu fy nymuniadau.

Pa gyfleoedd datblygu rydych chi wedi eu cael ers dechrau gweithio yn y Cyngor?

Ers dechrau gweithio i Gyngor RhCT, rydw i wedi cwblhau cymhwyster NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad. Mae'n gymhwyster Lefel 4, ac mae'n dangos bod gen i'r gallu i roi disgyblion Rhondda Cynon Taf ar y trywydd mwyaf effeithiol i fyd addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant. Rydw i hefyd wedi cwblhau fy nghymwysterau Arferion Gwaith Chwarae a Gwaith Ieuenctid Lefel 2 yn rhinwedd fy swydd bresennol, a byddaf i'n dechrau fy nghymhwyster Lefel 3 cyn bo hir.

Mae cyfleoedd datblygu eraill yn cynnwys hyfforddiant penodol mewn materion Diogelu Plant ac Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

I mi, mae gweithio gyda sefydliadau allanol wedi bod yn uchafbwynt. Un o fy swyddogaethau yw cynllunio a threfnu achlysuron – er enghraifft, Ffair Swyddi/Gyrfaoedd, Diwrnodau Byd Diwydiant ac Ymweliadau Byd Diwydiant ar gyfer ysgolion. Rydyn ni, yn aml, yn cysylltu ag amrywiaeth o gyflogwyr, ac yn meithrin perthynas agos gyda nhw. Dyma rywbeth rydw i'n mwynhau ei wneud.

Mae bod yn rhan o'r broses recriwtio graddedigion a phrentisiaid wedi bod yn rhan addysgiadol o fy mhrentisiaeth. Rydw i wedi cael cipolwg ar y broses gyfan, ac rydw i wedi bod yn rhan o'r panel cyfweld mewn rhai cyfweliadau.

Mae dod yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau'r awdurdod lleol, yn ogystal â datblygu fy sgiliau a fy ngwybodaeth yn y maes, hefyd wedi bod yn uchafbwyntiau.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Byddwn i'n argymell Cynllun Prentisiaethau Rhondda Cynon Taf i unrhyw un. Mae amrywiaeth o feysydd yn yr awdurdod lleol sy'n cynnig prentisiaethau, gan gynnwys peirianneg sifil, gwaith swyddfa, a llawer mwy.

Wrth lenwi'r ffurflen gais, byddwn i'n annog ymgeiswyr i ddefnyddio'r dull ‘STAR’ wrth ateb y cwestiynau sy'n seiliedig ar gymwyseddau. S – ‘Situation’ (Sefyllfa): esbonio'r sefyllfa; T – ‘Task’ (Tasg): yr hyn roeddech chi'n gyfrifol amdano; A – ‘Action’ (Gweithred): y camau y cymeroch chi i gwblhau'r dasg; R – ‘Result’ (Canlyniad): beth oedd y canlyniad. Dydy'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ddim yn dilyn y dull yma, felly, dydyn nhw ddim yn symud i gam nesaf y broses ymgeisio