Skip to main content

Chloe Williams - Uwch Gynorthwy-ydd Cyfrifeg

Enw: Chloe Williams

Blwyddyn dechrau (Prentisiaeth): Medi 2018

Swydd bresennol: Uwch Gynorthwy-ydd Cyfrifeg – ar hyn o bryd yn ail flwyddyn fy Mhrentisiaeth Cyfrifeg.

Cyn dechrau'r brentisiaeth, beth oeddech chi'n ei wneud?

Es i i Brifysgol Leeds, a threulio 8 mis yno cyn sylweddoli bod bywyd prifysgol ddim at fy nant. Byddwn yn mynd i seminar ond doeddwn i ddim yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth ar waith yn fy mywyd bob dydd. Des i adref a chael swydd fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol a swydd mewn bwyty lleol. Doeddwn i ddim eisiau rhoi'r gorau i fy addysg a chael fy nghlymu i un swydd felly pan gafodd y Brentisiaeth Cyfrifeg ei hysbysebu, fe wnes i achub ar y cyfle i wneud cais amdani.

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?

Roeddwn i'n hoffi'r syniad o ddysgu a gweithio ar yr un pryd, ennill cymwysterau a gwybodaeth wirioneddol yn yr amgylchedd gwaith a chael fy nhalu am wneud hyn.

Pa gyfleoedd datblygu rydych chi wedi eu cael ers dechrau gweithio yn y Cyngor?

Dechreuais ym mis Medi 2018, ac ers hynny rydw i wedi ennill anrhydedd Lefel 2 Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu ac rydw i'n gweithio tuag at Lefel 3 eleni.  Er bod fy mhrentisiaeth ddim wedi dod i ben eto, enillais swydd Cynorthwy-ydd Cyfrifeg ac yn ddiweddar rydw i wedi cael secondiad i swydd Uwch Gynorthwy-ydd Cyfrifeg. Rydw i wedi meithrin llawer o hyder, wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi dysgu llawer o bethau gwerthfawr wrth astudio a gweithio i RCT.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Fy uchafbwyntiau yw cwblhau fy mlwyddyn gyntaf ar lefel anrhydedd a chael cydnabyddiaeth am fy ngwaith. Yn fy marn i, mae RhCT yn wir yn gwerthfawrogi ei weithwyr a'r hyn maen nhw'n ei wneud. Drwy fod yn barod i helpu a phrofi fy ngwybodaeth, rwyf wedi cael rhagor o wybodaeth.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Byddwn yn bendant yn argymell prentisiaeth i fy ffrindiau, yn enwedig gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi ennill gwybodaeth, magu hyder a chreu ffrindiau. Mae gen i ferch 3 oed hefyd. Cyn gwneud cais, roedd hi newydd droi'n 1 oed a doeddwn i byth yn meddwl y byddai modd i mi weithio ac edrych ar ei hôl, ond yn rhyfeddol, roedd popeth yn iawn. Rydych chi'n creu amser i wneud eich gwaith, fel adolygu a dysgu, ac mae RhCT yn eich helpu gymaint â phosib gydag absenoldeb ar gyfer astudio ac oriau gweithio hyblyg. Byddwn i'n bendant yn dweud os oes gyda chi blant, peidiwch â gadael i hynny newid eich meddwl am wneud prentisiaeth. Ar ddiwedd eich prentisiaeth, mae gyda chi fwy i'w ddangos ar y diwedd, fel y profiad a'r cymwysterau y mae cyflogwyr yn hoffi eu gweld.

Gwneud cais am y brentisiaeth yma yw un o'r penderfyniadau gorau rydw i wedi'i wneud erioed.