Enw: Esta Lewis
Blwyddyn dechrau (prentisiaeth): Medi 2018
Swydd bresennol: Swyddog Treftadaeth Dan Brentisiaeth
Cyn dechrau'r brentisiaeth, beth oeddech chi'n ei wneud?
Roeddwn i ym Mhrifysgol Abertawe am dair blynedd lle cwblheais i radd mewn Hanes. Yn ystod y cwrs gradd, gwirfoddolais mewn amgueddfa, lle sylweddolais i fy mod i am weithio yn y sector amgueddfeydd.
Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?
Rydw i wastad wedi mwynhau hanes ac roeddwn i'n gwybod fy mod i am gael swydd sy'n cynnwys y pwnc. Pan welais i hysbyseb y swydd yn Ffair Gyrfaoedd Cyngor RhCT, roeddwn i'n gwybod y byddai hi'n addas i fi. Roedd hi'n cynnwys gweithio gyda phlant; lle roedd modd trosglwyddo fy ngwybodaeth a brwdfrydedd i bobl eraill. Gallwn i hefyd ymgysylltu â'r gymuned i helpu i wella'u lles ac iechyd trwy dreftadaeth a diwylliant. Roedd hi'n berffaith. Roedd hi hefyd yn cynnwys mantais ychwanegol o gael cyflawni Diploma Lefel 3 mewn Treftadaeth Ddiwylliannol. Roedd hyn yn golygu bod modd i fi ddatblygu fy addysg a gweithio ar yr un pryd.
Pa gyfleoedd datblygu rydych chi wedi eu cael ers dechrau gweithio yn y Cyngor?
Ers gweithio i RCT, rydw i wedi meithrin gwybodaeth werthfawr yn y sector amgueddfeydd. Rydw i wedi mynychu cynadleddau yng Nghaerdydd ar gyfer Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru lle roedd modd i fi barhau i ddatblygu'n broffesiynol. Rydw i hefyd wedi cwblhau cwrs Ymwybyddiaeth Awtistiaeth ar-lein sydd wedi datblygu fy ymwybyddiaeth. Rydw i wrthi'n cwblhau cymhwyster Lefel 3 sydd wedi rhoi cyfle i fi greu arddangosfa dros dro yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. Dyma gyfle gwych i ymchwilio i bwnc ac yna llunio darn o waith y caiff ymwelwyr ei fwynhau. Rydw i wedi magu llawer o hyder o ran siarad â chwsmeriaid a gweithio gyda rhanddeiliaid, dyma rywbeth byddwn i wedi ei chael hi'n anodd ei wneud yn y gorffennol. Rydw i wedi gweithio i reolwr llinell gwych, Sara Maggs, sy'n chwilio am gyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau, ac rydw i'n edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gweill.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Un o'm huchafbwyntiau oedd cynrychioli Taith Pyllau Glo Cymru yn ystod Diwrnod Dadleuwriaeth Amgueddfeydd Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd. Yn ystod y diwrnod, roedd modd i fi ryngweithio â gweithwyr amgueddfeydd proffesiynol eraill, llywydd Cymdeithas Amgueddfeydd ac Aelodau'r Cynulliad. Roedd hi'n brofiad gwych lle roedd modd i fi ddeall y sector amgueddfeydd yn iawn a'r gwaith gwych mae'n ei wneud mewn cymunedau. Rydw i hefyd wedi mwynhau cynnal gweithdai hanes i blant ysgol sy'n ymweld â'r amgueddfa a'r achlysuron yn ystod Hanner Tymor mis Chwefror.
Argymhellion i ymgeiswyr:
Peidiwch â phoeni am gyflog y swydd. Weithiau, gall gweld Isafswm Cyflog Cenedlaethol beri i chi beidio ag ymgeisio am y swydd. Mae'r cymhwyster yn amhrisiadwy, yn ogystal â'r profiad rydych chi'n ei gael. Does dim ots os ydych chi wedi graddio gan y bydd y cymhwyster yn wahanol i'ch gradd. Bydd y cymhwyster yn cynnwys dysgu yn y gweithle, rheoli prosiectau, ayyb. Nid dyma rywbeth cewch chi ddysgu mewn ystafell ddosbarth. Byddwn i'n ymgysylltu â'ch adran gymaint â phosibl, peidiwch ag ofni gofyn am gyfleoedd. Ac yn bwysicaf fyth, ewch ati i gael profiad yn y maes cyn i chi wneud cais. Trwy wneud hyn, byddwch chi'n sicrhau mai dyma'r maes addas i chi.
Mae Cyngor RhCT yn un o'r cyflogwyr gorau i weithio iddo. Mae'n cynnig buddion gwych fel oriau hyblyg, 25 diwrnod o wyliau blynyddol ac mae'r Cyngor yn gofalu am ei weithwyr. Mae'r Garfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant yn cynnig cymorth ardderchog i'w phrentisiaid. Bydd pawb yn gwneud eu gorau glas i wneud i chi gyflawni eich nodau, boed hynny'n gymhwyster neu yrfa yn y sector o'ch dewis.