Enw: Madison Shellis
Blwyddyn dechrau (prentisiaeth): 2017
Swydd bresennol: Prentis Gwasanaethau Arlwyo
Cyn dechrau'r brentisiaeth, beth oeddech chi'n ei wneud?
Roeddwn i wedi bod yn astudio Daeareg ym Mhrifysgol Caerdydd am gyfnod byr ond sylweddolais i nad oedd y cwrs yn addas i fi a byddai dull gwahanol o ddysgu yn fwy addas i fi. Dechreuais weithio mewn asiantaeth tai i gael profiad perthnasol cyn i fi ddod o hyd i'r cynllun prentisiaeth.
Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?
Roeddwn i wedi penderfynu nad oedd y brifysgol yn addas i fi, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i am ddysgu a datblygu fy hun ymhellach. Roedd y cynllun prentisiaeth yn gyfle perffaith i fi gan y byddai yn fy ngalluogi i weithio tuag at gymhwyster wrth ennill arian ar yr un pryd. Roeddwn i wedi symud i Dde Cymru yn ddiweddar felly roeddwn i'n edrych ymlaen at gael dysgu am y gymuned newydd roeddwn i'n byw ynddi wrth allu cyfrannu'n gadarnhaol ati.
Ffactor pwysig arall oedd enw da Cyngor Rhondda Cynon Taf o ran ei raglenni prentisiaeth. Roeddwn i wedi clywed nifer o bethau cadarnhaol am y cynllun, gan gynnwys ansawdd uchel yr hyfforddiant a datblygiad sy'n cael eu rhoi i'w weithwyr.
Pa gyfleoedd datblygu rydych chi wedi eu cael ers dechrau gweithio yn y Cyngor?
Yn ogystal â gweithio tuag at Ddiploma Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, rydw i wedi cwblhau sesiynau datblygu a hyfforddi sylweddol ers gweithio i Wasanaethau Arlwyo RhCT. Rydw i wedi cael amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi mewn nifer o feysydd, gan gynnwys: Ymwybyddiaeth Diogelu Plant ac Oedolion, Gweithio'n Ddiogel gyda'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH), Hyfforddiant Barista a Hyfforddiant Alergeddau Bwyd.
Yn ogystal â hyn, rydw i wedi cyflawni Dyfarniadau Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Cymorth Cyntaf yn y Gwaith a Chymorth Cyntaf Paediatreg. Trwy fynd ymlaen at gwblhau Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant a thrwy weithio'n agos gyda Swyddogion Hyfforddi, rydw i wedi gallu cynnal cyrsiau o ran meysydd pwnc yma i aelodau o staff RhCT a'r cyhoedd.
Trwy gwblhau'r cymwysterau cydnabyddedig ochr yn ochr â hyfforddiant y swydd, rydw i wedi gallu datblygu fy sgiliau cyfathrebu, trefnu, bod yn fanwl, a hyder cyffredinol yn fy ngallu.
Beth oedd yr uchafbwyntiau?
Yr uchafbwynt i fi hyd yn hyn yw'r amrywiaeth o bobl rydw i wedi cael y cyfle i weithio gyda nhw, gan gynnwys aelodau eraill o staff ac aelodau o'r gymuned. O annog plant ysgolion cynradd i gael ffordd o fyw iach trwy Raglen Gwella Gwyliau'r Ysgol i helpu i gynnal prydau cinio canol dydd i gleientiaid hŷn gyda gwasanaeth Pryd-ar-glud, rydw i wedi gallu gweld yr effaith gadarnhaol mae'r Cyngor yn ei chael ar y gymuned yn uniongyrchol. Rydw i wedi mwynhau rhyngweithio a sgwrsio â grwpiau gwahanol o bobl yn fawr iawn.
Argymhellion i ymgeiswyr:
- Os nad ydych chi'n siwr pa gamau rydych chi am eu cymryd nesaf, ystyriwch brentisiaeth gan nad ydych chi byth yn gwybod pa gyfleoedd fydd yn codi. Mae'n bosibl y byddwch chi'n darganfod eich bod chi'n mwynhau rhywbeth dydych chi erioed wedi'i ystyried o'r blaen.
- Gwnewch eich gorau glas i gael cymaint o brofiad ag y gallwch chi, boed hynny'n amherthnasol. Byddwch chi'n dysgu sgiliau gwerthfawr y cewch chi eu defnyddio.
- Cofiwch baratoi'n drylwyr ar gyfer eich cyfweliad trwy wneud ymchwil am y swydd a pharatoi atebion i amrywiaeth o gwestiynau.