Enw: Jacob Webley
Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2018
Swydd Bresennol: Syrfëwr Ystadau (Graddedig)
Maes Astudio: Fe wnes i astudio gradd Meistr mewn Eiddo Tiriog ym Mhrifysgol Reading
Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?:
Gan fy mod i'n wreiddiol o Gasnewydd ac yn symud i Gaerdydd roeddwn i'n edrych am y cyfle i ddilyn gyrfa yn yr un maes â fy astudiaethau. Roeddwn i eisiau gweithio a byw yng Nghymru ac roedd yn ymddangos bod y cynllun yma i raddedigion yn ticio'r blychau i gyd. Mae'r rhaglen i raddedigion wedi rhoi cyfle i fi ennill cymhwyster Rheoli Prosiect sy wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru ond sydd hefyd yn caniatáu i fi barhau â fy astudiaethau APC er mwyn dod yn Syrfëwr Siartredig.
Uchafbwyntiau: Mae'r rhaglen i raddedigion wedi rhoi modd i fi weithio ar y cyd ag adrannau eraill y Cyngor i gyflawni ystod o brosiectau. Mae pob diwrnod gwaith yn wahanol ac mae digon o amrywiaeth i'r rôl – boed hyn yn caffael neu waredu eiddo, cynnal trafodaethau am brydlesi neu ddelio ag enghreifftiau o dresmasu. Rydw i wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau o'r dechrau, ac roedd rhai ohonyn nhw'n cynnwys gwerthu sawl llain garej ar draws RhCT a oedd wedi'u rhentu o'r blaen yn rhan o gytundeb tenantiaeth. Rydych chi'n cael cynnig dewis i ddysgu ymhellach hefyd, er enghraifft mae modd i fi fynychu sesiynau DDP sy'n cael eu darparu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a derbyn cefnogaeth yn ystod fy astudiaethau APC.
Argymhellion i Ymgeiswyr: Gwnewch eich gwaith ymchwil o ran edrych ar adroddiadau neu brosiectau blaenorol roedd y Gwasanaeth Eiddo'r Cyngor yn rhan ohonyn nhw. Bydd dangos diddordeb gweithredol trwy ofyn cwestiynau ar ddiwedd y cyfweliad yn caniatáu i chi ddysgu rhagor am y rôl ond yn dangos i'r rhai sy'n cyfweld â chi eich rhinweddau ac a ydych chi'n addas ar gyfer y rôl.
Dylech chi gael dealltwriaeth dda o'r hyn y mae'r Gwasanaeth Eiddo'r Cyngor yn ei wneud a pha broblemau y mae'r maes gwasanaeth yma'n eu hwynebu. Y ffordd orau o drin y cyfweliad o fy safbwynt i yw i chi fod yn chi, yn berson hyderus a hoffus. Dylech chi arddangos y profiadau rydych chi wedi'u cael o swyddi blaenorol, profiadau bywyd yn ogystal â hobïau. Does dim rhaid i bopeth fod â chysylltiad i eiddo. Os dydych chi ddim yn deall term neu gwestiwn, byddwch yn onest a dweud eich bod chi ddim yn deall a gofynnwch am esboniad yn lle esgus ac ateb yn anghywir.