Blwyddyn Dechrau'r Cynllun Graddedigion: 2016
Swydd bresennol: Swyddog Datblygu Prosiectau - Sgiliau
Maes Astudio: Astudiaethau Datblygu ym Mhrifysgol Glasgow
Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?:
Roeddwn i'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes Llywodraeth Leol. Roeddwn i'n hoff iawn o'r pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol a dysgu wrth y gwaith.
Uchafbwyntiau:
Roedd bod yn rhan o gynlluniau pwysig o'r dechrau yn uchafbwynt. Yn fuan iawn ar ôl dechrau yn y swydd, derbyniais i aseiniad ymchwil a oedd yn ymchwilio i'r arferion gorau ym maes darparu sgiliau yn y DU. Rhan allweddol o'r swydd oedd adrodd y gwaith ymchwil yn ôl i'r rheolwr llinell a rheolwyr eraill yn Adran Adnoddau Dynol y Cyngor. O fewn ychydig o fisoedd, roedd rhaid i mi gyflwyno crynodeb o'r ymchwil i uwch weithwyr o awdurdodau lleol eraill ac uwch gynrychiolwyr o sefydliadau partner yn ne ddwyrain Cymru.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys bod yn rhan o recriwtio graddedigion a phrentisiaid, cael cymorth a chyfarwyddyd gan fy mentor dros gyfnod y rhaglen, gwneud ymchwil ar gyfer prosiect cymorth i fusnesau gydag awdurdodau lleol eraill a gweithio gyda nifer o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion, y GIG a cholegau lleol i nodi cwmpas o ran cydweithio â'r Cyngor.
Argymhellion i ymgeiswyr:
Rydw i'n argymell eich bod chi'n ystyried y cynllun oherwydd y cyfrifoldeb, buddion a'r cymorth sy'n rhan ohono. Ar ben hynny, mae'r llywodraeth leol yn cynnig cydbwysedd bywyd-gwaith arbennig oherwydd trefniadau gweithio hyblyg a nifer y diwrnodau o wyliau.
Rydw i'n argymell eich bod chi'n darllen am Gyngor RhCT wrth gwblhau'r ffurflen gais a chynnwys beth fyddwch chi'n ei gyfrannu at y maes gwasanaeth byddwch chi'n rhan ohono yn ystod y rhaglen i raddedigion a thu hwnt. Er enghraifft, sut mae modd trosglwyddo'r sgiliau rydych chi wedi'u hennill i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani? Gall tynnu sylw at debygrwydd yr hyn sydd wedi'i nodi ar y disgrifiad swydd a'ch profiad blaenorol, boed hynny'n academaidd, yn seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol, fod yn ffordd ardderchog o gryfhau ateb yn y cyfweliad.
Mae gwefan y Cyngor, gwefannau newyddion lleol a'r cyfryngau cymdeithasol yn ffynonellau gwybodaeth da - mae'n amlwg os yw ymgeiswyr wedi edrych arnyn nhw.