Mae gan y Cyngor garfan benodol ar gyfer ymdrin â materion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb. Mae'r garfan yn delio â pholisïau corfforaethol a strategaethau megis y Polisi Cyfleoedd Cyfartal, Polisi Urddas yn y Gwaith, a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Yn ogystal â hyn, mae’r garfan yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i geisio gwireddu addewid y Cyngor i sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Dyma nodau’r garfan:
- Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb sy’n byw a gweithio yn Rhondda Cynon Taf
- Gofalu bod dim achosion o wahaniaethu yn erbyn aelodau o staff a thrigolion lleol a bod pawb yn cael eu trin yn deg a chyda pharch
- Cydnabod a gwerthfawrogi’r ffaith bod pawb yn wahanol a chydnabod bod gan bawb gyfraniad unigryw i'w wneud yn Rhondda Cynon Taf
- Mynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu yn y gweithle ac o ran cynnal gwasanaethau’n ogystal
- Cynyddu ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o faterion anghydraddoldebau o blith staff
- Gofalu bod gweithdrefnau denu a phenodi staff yn rhai teg a chyfartal sydd ddim yn gwahaniaethu
- Gofalu bod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ar gael yn fwy hwylus o fewn cymunedau lleol a gofalu bod ein gwasanaethau ni’n rhai hygyrch i bawb
- Mynd i’r afael â materion anghydraddoldebau ac anfantais mewn cymunedau lleol trwy ddatblygu cynlluniau arloesol i hyrwyddo newid a’i gynnal
Mae’r garfan yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i fynd â’r maen i’r wal yn hyn o beth yn nhermau cyflogaeth a chynnal gwasanaethau ill dau.
Datganiad o Genhadaeth Carfan Materion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb
‘Mynd i'r afael ag achosion o wahaniaethu a gofalu bod egwyddorion cyfle cyfartal yn rhan annatod o'r gweithle ac o fewn ein gwasanaethau yn ogystal.’
Manylion Cyswllt
Hoffech chi gael gwybod rhagor ynglŷn â’r gwaith rydyn ni’n ei wneud? Cysylltwch â Charfan Cydraddoldeb ac Amrywioldeb.
Ffôn: 01443 424075
Ebost: cydraddoldeb@rhondda-cynon-taf.gov.uk