First Three Years in Practice Support for Social Workers

  • Mae gan bob gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso gyfle i fanteisio ar ein rhaglen yn ystod y flwyddyn gyntaf gynhwysfawr. Mae hyn yn cynnwys cynllun ymarfer yn ystod y flwyddyn gyntaf wedi'i lunio â Charfan Datblygu'r Gweithlu a'ch Rheolwr er mwyn cael golwg ar lefelau goruchwyliaeth, cymorth a llwyth gwaith. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob 6 mis ac yna'n flynyddol yn rhan o'r broses dysgu ac addysg Broffesiynol Barhaus (CPEL).
  • Mae modd i'n Gweithwyr Cymdeithasol fanteisio ar galendr hyfforddiant helaeth a chyflawni hyfforddiant cyson er mwyn cefnogi'u datblygiad. Mae hyn hefyd yn cynnwys y pedwar cwrs gorfodol ar gyfer y rhaglen gadarnhau.
  • Bydd Gweithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yn cymryd rhan mewn rhaglenni ymsefydlu yn eu carfanau, ynghyd â grwpiau datblygiad misol sy'n cael eu cynnal gan Garfan Datblygu'r Gweithlu.
  • Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn cael cyllid i gwblhau'r rhaglen gadarnhau o fewn eu tair blynedd gyntaf er mwyn iddyn nhw gael ail-gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru. Caiff Gweithwyr Cymdeithasol hawlio eu costau cofrestru o Gyngor RhCT. Bydd angen iddyn nhw gysylltu â'r adran Adnoddau Dynol                                                   

Adborth o'n Gweithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso

“Pan gysylltais â'r rheolwr carfan yn RhCT, roedd yn frwdfrydig iawn. Roedd y broses cyfweld yn ddidrafferth, ac roeddwn i'n teimlo bod y sawl wnaeth fy nghyfweld wedi egluro'r rôl a chynlluniau'r awdurdod ar gyfer y garfan yn llawn. Rydw i wedi bod yn y swydd ers 4 mis ac rydw i wedi cael cymorth gan bawb yn yr awdurdod ac wedi cael croeso cynnes gan fy ngharfan.”

 “Fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, mae Cyngor RhCT wedi bod yn gefnogol iawn, gan fy helpu i sicrhau fy mod yn cyflawni'r holl hyfforddiant a chymwysterau perthnasol sy'n ofynnol yn rhan o fy rôl”