Pam gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf?

Gweledigaeth y Cyngor yw "I Rhondda Cynon Taf fod y lle gorau yng Nghymru i fyw, gweithio a chwarae ynddo, lle mae pobl a busnesau yn annibynnol, yn iach ac yn llewyrchus.”

Diben y Cyngor a’r rheswm pam mae'n bodoli yw "darparu arweinyddiaeth gymunedol gref a chreu amgylchedd lle mae modd i bobl a busnesau fod yn annibynnol, cyflawni eu potensial a ffynnu". Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni tair prif flaenoriaeth:

  • Sicrhau bod Pobl yn annibynnol, yn iach ac yn llwyddiannus;
  • Creu Lleoedd y mae pobl yn falch o gael byw, gweithio a chwarae ynddyn nhw;
  • Galluogi Ffyniant: creu'r cyfle i bobl a busnesau fod yn arloesol, yn entrepreneuraidd, cyflawni eu potensial a ffynnu.

Gweithio i ni

Os ydych chi'n gweithio i ni, bydd popeth a wnewch yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth er gwell i'n cymuned a'r sector cyhoeddus. Rydyn ni'n cefnogi pobl drwy ddarparu gwasanaethau rhagorol ac arloesol; o gartrefi gofal yr henoed i gasgliadau sbwriel ac ailgylchu, darpariaeth y blynyddoedd cynnar i gynnal a chadw pontydd/ffyrdd a llawer o wasanaethau eraill. 

P'un a ydych chi'n chwilio am eich swydd gyntaf, yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cymryd seibiant i ofalu am anwyliaid neu rydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n chwilio am eich her nesaf, gwyddwn, beth bynnag fo'ch sefyllfa, fod eich gwaith yn llawer mwy na disgrifiad swydd a chyflog. Rydyn ni am i’n gweithwyr gael eu hysbrydoli i’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau trwy waith gwych, mewn amgylchedd lle mae arloesedd, gwaith tîm a llwyddiant yn cael eu dathlu.

Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd gwych i chi symud ymlaen a datblygu, gydag ymrwymiad cadarn i'ch cefnogi. Yn gydnabyddiaeth am eich angerdd a'ch ymroddiad, mae gan ein holl weithwyr fynediad at y buddion staff canlynol:

Rydyn ni'n cynnig:

*Mae'n bosibl bydd rhai buddion i weithwyr yn amrywio gan ddibynnu ar y swydd a'r cytundeb.

Dysgu a Datblygu:
Rydyn ni'n credu ei bod yn bwysig i bob gweithiwr gyflawni ei botensial llawn. Rydyn ni'n eich annog a'ch cefnogi i ddysgu a datblygu'n barhaus wrth weithio i ni. A chithau'n weithiwr, bydd gyda chi fynediad at nifer o gyfleoedd datblygu gan gynnwys cyfnod sefydlu gwych, dysgu yn y swydd, gweithdai byr, e-ddysgu ac ystod gynhwysfawr o raglenni gan gynnwys Arwain a Rheoli a Rhaglenni Hyfforddi a Mentora a achredir gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Byddwn ni hefyd yn eich cefnogi gyda'ch Datblygu Proffesiynol Parhaus.

Cymorth Iechyd a Lles:
Mae gan ein gweithwyr fynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol sy'n cynnig cymorth a chyngor ynglyn â Lles. Rydyn ni'n cynnig gwasanaethau Cwnsela, Gwyliadwriaeth Iechyd, Nyrsys a Ffisiotherapydd. Fel cyflogwr, mae ots gyda ni am les ein staff ac rydyn ni bob amser yn ymdrechu i fynd yr ail filltir ar gyfer ein gweithwyr.

Gostyngiadau Ffordd o Fyw:
Mae modd defnyddio ein cerdyn prisiau gostyngol Vectis i arbed arian ar nwyddau, gwyliau, bwyta allan a llawer mwy gan rai o frandiau mwyaf y DU! Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys ar gyfer cynllun prynu car â chymorth, prisiau gostyngol ar eitemau technoleg megis ffonau clyfar a manteisio ar ein cynllun Beicio i’r Gwaith.

Aelodaeth Campfa:
Rydyn ni'n cynnig aelodaeth campfa am bris gostyngol ar gyfer canolfannau hamdden sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys mynediad diderfyn i ystod gyfan o byllau nofio, campfeydd o'r radd flaenaf, cyfleusterau chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd o ansawdd uchel.

Gofal Llygaid:
Mae gan ein gweithwyr sy'n defnyddio offer sgrin arddangos hawl i arian tuag at brofion llygaid a sbectol os oes angen.

Cynllun Pensiwn:
Rydyn ni'n cynnig cynllun pensiwn yn y gweithle hael ar gyfer staff, ac mae cynllun pensiwn athrawon ar gael ar gyfer swyddi perthnasol.

Gwyliau:
Mae hawl gwyliau ar gyfer contract cyflogaeth safonol yn dechrau gyda 26 diwrnod (pro rata) yn ogystal ag 8 o wyliau cyhoeddus, gan gynyddu i 31 diwrnod (pro rata) ar ôl cwblhau 5 mlynedd o wasanaeth di-dor.

Mae gan ein gweithwyr hefyd yr opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.

Cymorth Ariannol Neyber:
Rydyn ni'n cynnig cymorth ariannol trwy Neyber, lle mae gan ein gweithwyr hawl i gyngor ariannol a benthyciadau sy'n cael eu tynnu o’u cyflog os ydyn nhw'n gymwys.

Cymorth i Deuluoedd a Chydbwysedd Bywyd a Gwaith:
Rydyn ni'n cydnabod bod yr angen am hyblygrwydd yn amrywio o gyfrifoldebau rhiant a gofalu i weithio gydag anabledd. Mae gyda ni bolisiau cefnogol megis gweithio'n hyblyg ac rydyn ni'n cynnig yr hawl i weithwyr ofyn i weithio'n hyblyg (lle bo modd). Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth i rieni gan gynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch.

Rhwydweithiau Staff:
Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+ a Sbotolau, sy'n tynnu sylw at hiliaeth, anghydraddoldeb hiliol a rhagfarn.

Tudalennau yn yr Adran Hon