Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?
Cyn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol roeddwn i'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu am 10 mlynedd ac yn rhedeg fy musnes gwarchod plant fy hun. Roeddwn i wastad wedi bod â diddordeb mewn bod yn Weithiwr Cymdeithasol a phan oedd yr amser yn iawn fe wnes i gais i astudio am radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol gan gymhwyso yn 2019. Cefais swydd fel Ymarferydd Gofal a Chymorth yn Gwasanaethau i Oedolion yng Nghyngor RhCT tra roeddwn i'n aros am fy nhystysgrifau cymhwyster. Yna symudais i swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn yr un garfan.
Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?
Mae fy swydd fel gweithiwr cymdeithasol yn cynnwys gweithio gydag oedolion yn y gymuned i'w helpu i aros mor annibynnol â phosibl cyhyd ag y bo modd. Rydw i'n ymweld â phobl yn ddyddiol, yn siarad â nhw am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, ac rydw i'n eu cefnogi i ddatblygu nodau - rydyn ni'n eu galw nhw'n ddeilliannau - yr hoffen nhw eu cyflawni. Mae fy rôl yn amrywiol iawn ac rydw i'n gweithio gydag oedolion o bob oed. Rydw i'n cefnogi pobl ifainc sydd o dan Wasanaethau i Blant i fod yn annibynnol wrth iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion; rydw i'n rhoi cymorth i bobl ag anableddau dysgu i gael mynediad at gyfleoedd yn y gymuned. Rydw i'n helpu pobl sy'n mynd yn ôl adref ar ôl cyfnod yn yr ysbyty.
Fy mhrif rôl yw trafod gyda phobl yr hyn y maen nhw am ei gyflawni a beth sy'n bwysig iddyn nhw a'u cefnogi i gyrraedd y deilliannau yma. Efallai bydd hyn yn golygu cydweithio â gwasanaethau eraill fel asiantaethau gofal, cartrefi gofal ac asiantaethau gwirfoddol.
Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?
Y peth gorau am fod yn Weithiwr Cymdeithasol yw'r rhyngweithio gyda phobl sy'n byw yn y gymuned. Rydyn ni'n cefnogi pobl i fod mor annibynnol â phosibl ac i gyflawni'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw.
Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?
Ymgeisiais am swydd gyda Chyngor RhCT gan mai dyma lle rydw i'n byw ac rydw i'n teimlo fy mod yn deall y bobl sy'n byw yn yr un gymuned â mi.
Pa bethau cadarnhaol ydych chi wedi'u profi yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?
Ers i mi fod yn gweithio i Gyngor RhCT rydw i wedi cael fy annog a'm harwain gan garfan gefnogol iawn i ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth. Rydw i wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn llawer o sesiynau hyfforddi ac i symud ymlaen gyda fy natblygiad proffesiynol.
Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?
Y peth gorau am weithio i Gyngor RhCT yw'r ethos. Rydw i'n teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gan aelodau eraill o’r garfan ac yn teimlo’n hyderus yn fy rôl fel Gweithiwr Cymdeithasol yn yr awdurdod lleol yma.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngo RhCT?
Byddwn i'n annog pobl i wneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol gyda Chyngor RhCT?.
Os ydych chi'n siarad Cymraeg, a fyddech cystal ag ateb y cwestiwn ychwanegol isod:
Beth yw manteision siarad Cymraeg yn eich swydd?
Rydw i'n siarad Cymraeg a gofynnwyd i mi baratoi asesiad cynhaliwr trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n werth dysgu siarad Cymraeg gan y gall hyn wella'r gwasanaeth rydych chi'n gallu ei ddarparu i bobl yn y gymuned.