Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?
Rydw i wedi bod yn fy swydd ers ychydig dros dair blynedd, fodd bynnag rydw i wedi bod yn Weithiwr Cymdeithasol ers ychydig dros chwe blynedd. Cyn gweithio i Gyngor RhCT roeddwn i'n gweithio i awdurdod lleol gwahanol a maes gwasanaeth gwahanol. Cyn cymhwyso yn Weithiwr Cymdeithasol roedd gen i amrywiaeth o swyddi gan gynnwys manwerthu, lletygarwch ac adeiladu cyn treulio pum mlynedd fel swyddog cymorth technegol mewn cwmni telathrebu.
Penderfynais chwilio am waith yn y sector gofal cymdeithasol gan fy mod i'n teimlo ei bod hi'n amser chwilio am yrfa ac roeddwn i'n meddwl fod gan yrfa mewn gofal cymdeithasol y potensial i fod yn ddewis gwerth chweil.
Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?
Mae fy swydd yn weddol amrywiol felly mae'n anodd disgrifio diwrnod arferol. Rydw i'n gweithio gyda nifer o unigolion sydd dan ofal gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ac rydw i'n gweithredu fel eu “Cydlynydd Gofal”. Rydw i'n gyfrifol am gydgysylltu’r gofal a’r cymorth maen nhw'n ei dderbyn gan wasanaethau iechyd meddwl yn yr ardal leol. Mae hyn yn golygu ymweld â nhw (neu eu ffonio fel sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19) a meithrin perthynas â nhw er mwyn darganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a beth maen nhw eisiau ei wneud mewn bywyd, cyn ceisio dod i gytundeb gyda nhw ynglŷn â sut mae modd i ni fel gwasanaeth eu cefnogi i gyrraedd y nodau yma. Mae hefyd yn gallu cynnwys ymweld â phobl yn rheolaidd i fonitro eu hwyliau a'u lles cyffredinol a chwilio am arwyddion eu bod yn cael trafferth ymdopi â phethau.
Mae rhan arall o fy swydd yn ymwneud â threfnu cymorth a chefnogaeth gartref i bobl sy'n ei chael hi'n anodd gwneud pethau drostyn nhw eu hunain. Rydw i'n gyfrifol weithiau am drefnu i gynhalwyr ymweld â phobl gartref a’u helpu gyda thasgau o ddydd i ddydd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu parhau i fyw yn eu cartref eu hunain cyhyd â phosibl. Weithiau mae angen mwy o gefnogaeth ar bobl nag y mae modd ei roi iddyn nhw yn eu cartref eu hunain, felly mae rhan arall o fy swydd yn ymwneud â chwilio am lety addas i bobl a'u helpu i wneud cais amdano a symud i mewn iddo os oes angen. Rydw i hefyd yn gyfrifol am gwblhau asesiadau gyda phobl sydd wedi cael eu cyfeirio aton ni gan eu meddyg teulu. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod â phobl a chael sgwrs am eu bywydau a sut mae eu profiadau wedi eu harwain i deimlo'r ffordd y maen nhw'n teimlo ar hyn o bryd. Yna mae angen i mi wneud argymhelliad ynghylch a oes angen cymorth arnyn nhw gan ein gwasanaeth, neu a fydden nhw'n elwa ar gymorth o rywle arall megis elusen neu ganolfan gymunedol leol.
Rydw i hefyd yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy cymwys ac rwyf ar ddyletswydd nifer o ddyddiau bob mis. Ar y diwrnodau yma mae’n ofynnol i mi fod ar gael pe bai rhywun yn gofyn am asesiad o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983/2007. Fi sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau angenrheidiol i’r person gael ei weld gan Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy a dau feddyg i benderfynu a yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Cyfeirir at hyn yn gyffredin fel "sectioning", er fy mod yn ceisio osgoi defnyddio’r gair yma cymaint â phosibl. Mae modd i hyn fod yn un o rannau anoddaf y swydd gan ei fod yn aml yn golygu gweld pobl sy'n mynd trwy gyfnod anodd iawn, felly gall fod yn heriol iawn i bawb sy'n rhan o'r broses.
Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd??
Fy ngharfan, heb os nac oni bai. Fy ngharfan yw'r peth gorau am fy swydd o bell ffordd. Rydw i'n teimlo’n ffodus iawn i weithio ochr yn ochr â grŵp o bobl mor angerddol, penderfynol a chroesawgar.
Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT??
I ddechrau, y cyfleustra o fyw a gweithio yn yr un awdurdod lleol, ar ôl teithio cryn bellter ar gyfer fy swydd flaenorol. Cefais fy nenu hefyd gan y cyflog cymharol gystadleuol a’r adborth cadarnhaol a gefais gan fy nghyfoedion a oedd wedi gweithio i’r Cyngor yn y gorffennol.
Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?
Rydw i wedi cael nifer o gyfleoedd i wella fy natblygiad proffesiynol ers ymuno â Chyngor RhCT.
Ers dechrau gweithio gyda Chyngor RhCT dair blynedd yn ôl, rydw i wedi gallu ennill cymhwyster proffesiynol ychwanegol ac rydw i ar fin dechrau yn y brifysgol i weithio tuag at gyflawni un arall. Rydw i wedi gweld bod y cyfleoedd sydd ar gael wedi bod yn doreithiog a bod staff yn cael eu hannog a’u cefnogi’n frwd i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth
Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?
I mi, y peth gorau fu'r cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol sydd ar gael o fewn y Cyngor
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?
Ewch amdani!