Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?
Rydw i wastad wedi gweithio i Gyngor RhCT ers yn 18 oed. Bûm yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn rhoi cymorth busnes i Garfanau Gofal a Chymorth. Roedd gweithio yn yr amgylchedd yma gyda Gweithwyr Cymdeithasol ac Ymarferwyr Gofal a Chymorth wedi fy ysbrydoli i weithio yn y gymuned a helpu pobl i gyflawni eu nodau.
Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?
Rydw i'n ymweld â defnyddwyr gwasanaeth sydd â nam ar y golwg, nam ar y clyw neu nam ar ddau synnwyr. Rydw i'n cynnal asesiad o’u hanghenion ac yn nodi deilliannau a fydd yn eu helpu i aros yn annibynnol ac yn ddiogel. Rydw i'n darparu ystod o offer ac yn rhoi rhywfaint o hyfforddiant Golwg Gwan. Rydw i'n rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i reoli tasgau byw bob dydd i bobl sydd wedi colli golwg ac asesu risg amgylchedd y cartref lle gallai addasiadau fod yn briodol, er enghraifft goleuadau allanol a rheiliau.
Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?
Helpu pobl i gyflawni nodau doedd pobl ddim yn meddwl oedd yn bosibl mwyach.
Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?
Fe wnes i fwynhau llawer o flynyddoedd yn gweithio'n rhan o Cymorth Materion Busnes. Cefais fy mhrofiad mwyaf cadarnhaol pan oeddwn am newid fy llwybr gyrfa a gweithio yn y gymuned. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael rheolwr gwych a oedd yn deall bod angen i mi adael ac wedi fy helpu i wneud hynny. Trwy oruchwyliaeth a thrafod yr opsiynau oedd ar gael, fe wnaethon ni amlinellu cynllun a oedd yn cynnwys chwilio am swyddi a oedd yn addas. Fe ddywedodd fy rheolwr hefyd i fynd ar ymweliadau gyda staff presennol i arsylwi er mwyn cael rhagor o brofiad a dealltwriaeth. Rydw i hefyd wrth fy modd â'r hyfforddiant rydw i wedi ei wneud o fewn y gwasanaethau synhwyraidd sydd wedi rhoi gwybodaeth helaeth i mi am y problemau y mae pobl yn eu hwynebu. Rydw i hefyd wedi mynychu llawer o gyrsiau eraill gan gynnwys Iechyd Meddwl, Anableddau Corfforol a Chamddefnyddio Sylweddau.
Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?
Gweithio mewn carfan wych gyda chefnogaeth dda gan reolwyr.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?
GEwch amdani! Mae llawer i’w ddysgu ond bydd gyda chi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi ac mae’n llwybr gyrfa gwerth chweil.