Paul - Gweithiwr Cymdeithasol, Camddefnyddio Sylweddau

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Rydw i wedi gweithio yn y Garfan Camddefnyddio Sylweddau ers 5 mlynedd a hanner.

Trwy astudio ar gyfer fy nghwrs gradd mewn Gwaith Cymdeithasol a rhai swyddi Gwaith Cymdeithasol eraill cyn gweithio i Gyngor RhCT, rydw i wedi bod yn ymwneud â'r maes yma ers tua 10 mlynedd. Dechreuais fel Gwaith Cymdeithasol asiantaeth yn RhCT, yna cefais swydd dros dro cyn i'r swydd droi'n barhaol.

I ddechrau, gwnaeth gwirfoddoli gyda phobl iau yn fy nghymuned leol ennyn fy niddordeb mewn helpu eraill a arweiniodd wedyn at weithio'n llawn amser mewn Ysgol Breswyl i blant ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig difrifol. Dyma oedd sylfaen fy nysgu ar sut i roi cymorth i bobl agored i niwed mewn rhinwedd broffesiynol.

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Mae fy swydd yn amrywio. Fel arfer mae'n cynnwys ymweld â phobl (wyneb yn wyneb), yn eu cartrefi eu hunain neu yn yr ysbyty, cartref gofal, canolfan adsefydlu, ac ati neu siarad ar y ffôn, asesiadau, cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn ogystal â gwneud gwaith ar y cyfrifiadur. Rydw i'n treulio cryn dipyn o amser yn teithio ar hyd a lled RhCT.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Meithrin perthnasoedd â defnyddwyr gwasanaeth a gweld cynnydd, weithiau dros nifer o flynyddoedd.

Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?

Ers dechrau gyda'r garfan, rydw i wedi cael fy annog yn fawr i ddilyn fy niddordebau dysgu fy hun ynghylch Camddefnyddio Sylweddau. Mae hyn yn ei dro wedi fy ngalluogi i fagu hyder lle mae modd i mi yn awr gyflwyno hyfforddiant arbenigol i Weithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Mae cyfleoedd i ddatblygu bob amser. Mae pobl fel arfer yn aros yn eu swyddi ac mae modd i chi meithrin rhwydweithiau cymorth.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Mae'r amgylchedd yn gallu bod heriol ar brydiau, gyda gweithwyr proffesiynol eraill a defnyddwyr y gwasanaeth ac mae'n rhaid bod gyda chi rywfaint o wydnwch ond yn gyffredinol, mae gofal cymdeithasol yn yrfa sy'n rhoi llawer o foddhad emosiynol.

Mae'r Garfan Gwaith Cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau yn eithaf unigryw yn fy marn i. Rydyn ni bob amser yn rhoi cymorth dilys i ddefnyddwyr y gwasanaeth ac mae fy holl gydweithwyr yn aml yn mynd yr ail filltir wrth gyflawni tasgau. Yn sicr, mae'n rhaid i chi gael meddylfryd creadigol a dull sy'n canolbwyntio ar atebion.

 

Tudalennau yn yr Adran Hon